• Mynediad

Gwybodaeth am fynediad a digwyddiadau hygyrch


Mynediad ffisegol

Mae mynediad ffisegol da gan yr holl ganolfannau lle mae digwyddiadau Gŵyl Ddawns Caerdydd yn cael eu cynnal.

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi at dudalennu gwybodaeth am fynediad ar wefannau Chanolfan Mileniwm Cymru, Chapter a Tŷ Dawns.

Canolfan Mileniwm Cymru
Chapter
Tŷ Dawns


Perfformiad hygyrch

Ways of Being Together 
19 Tachwedd, Chapter
Bydd Ways of Being Together gan Jo Fong yn cael ei chyflwyno mewn BSL gan Julie Doyle.


Gwybodaeth am berfformiadau penodol

Black Out
10 a 11 Tachwedd, Tŷ Dawns
Cynhelir Black Out mewn blwch sydd wedi’i adeiladu’n arbennig ar lwyfan Tŷ Dawns gyda’r gynulleidfa’n sefyll ar rostra gan edrych i lawr ar yr ardal berfformio. Ceir pum gris i fyny at y rostra lle saif y gynulleidfa ac uchder y wal y mae’r gynulleidfa’n edrych drosti i’r gofod yw 1.1m. 

Bydd nifer o stolion uchel ar gael i eistedd arnyn nhw os bydd sefyll drwy’r perfformiad ar ei hyd yn anodd efallai, neu os bydd angen mwy o uchder arnoch chi. Dylech ein e-bostio ar info@dance.wales os hoffech i ni gadw stôl i chi.

Interruption 
17 Tachwedd, ar ganol dinas Caerdydd
Bydd Interruption yn digwydd mewn tri lleoliad ynghanol y ddinas yn ystod y dydd ar 17 Tachwedd. Rydym yn disgwyl y bydd mynediad gwastad a lifftiau yn yr holl leoliadau.

E-bostiwch info@dance.wales neu galwch ni ar 029 2002 6521 os hoffech wybodaeth bellach am y naill neu’r llall o’r digwyddiadau hyn.