• Am Caerdydd Orllewin

Prosiect arbennig yw Am Gorllewin Caerdydd sy’n digwydd yn ardaloedd Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd yn y cyfnod sy’n arwain at yr ŵyl. Yn cynnwys dawns, sain a ffilm, mae’n cael ei arwain gan y coreograffydd Joanna Young a’r cyfansoddwr Jamie McCarthy.

Eisiau cymryd rhan? Gyrrwch e-bost at info@dance.wales.

Mae Am Gorllewin Caerdydd wedi’i gefnogi gan Gyngor Dinas Caerdydd.

Diolch i’r sefydliadau canlynol sydd eisoes yn cymryd rhan:

GCT — Gweithredu yng Nghaerau a Threlái
Coleg Cymunedol Llanfihangel-ar-Elái
Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn
Ysgol Uwchradd Woodlands