Cyn perfformiadau o’u sioe wych Under Glass, mae Ensemble Clod yn breswyl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer ail wythnos Gŵyl Ddawns Caerdydd.
Yn digwydd dros yr wythnos
Stiwdio Agored: Placebo
Dydd Gwener 17 Tachwedd, 4.30yp
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Yn y digwyddiad Stiwdio Agored hwn, bydd Ensemble Clod yn rhannu rhywfaint o’r gwaith y maent wedi dechrau’i greu dros eu hwythnos ymchwil a datblygu ar gyfer prosiect newydd.
Er gwaetha’r ffaith mai hen hen ystryw yw’r ‘effaith plasebo’ a ddefnyddir gan feddygon gweithredol, dim ond yn ddiweddar y mae wedi dod yn destun ymchwil wyddonol go iawn. Ond a oes gan blasebo berthynas ddyfnach â’n trafodaethau diwylliannol? Rydym am ddechrau ystyried beth mae ‘perfformio symptomau’ yn ei olygu. Sut mae’r syniad o rym yn bwydo’r drafodaeth hon?
Jyst pa mor bell y gall ein cyrff a’n meddyliau gael eu newid gan bobl eraill?
Mae’r tocynnau am ddim. E-bostiwch kit@clodensemble.com os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn mynychu’r sioe.
Reboot: Moving Music
Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2017, 10yb — 5yp
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Ers 20 mlynedd a mwy, mae Suzy Willson a Paul Clark – Cyfarwyddwyr Artistig Clod Ensemble – wedi cydweithio i greu corff unigryw o waith perfformiad sy’n cyfuno symudiadau a cherddoriaeth wreiddiol.
Yn ystod y gweithdy undydd, bydd Suzy a Paul yn rhannu rhai o’r egwyddorion sy’n sail i’w gwaith ynghyd ag ymarferion sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng symud a cherddoriaeth. Ym myd y theatr, dawns, opera a ffilm, caiff cerddoriaeth ei defnyddio mewn amryfal ffyrdd – i gynyddu dwyster teimlad, i chwarae ar emosiynau, i weithredu fel papur wal, neu fel strwythur i’r darn. Yn y sesiwn yma, gyda cherddoriaeth gan Bach, Carl Stalling, Miles Davis, Purcell, Ray Charles, Stravinsky a cherddoriaeth o rai o sioeau diweddar Clod Ensemble, byddwn yn ystyried sut mae’r hyn rydyn ni’n ei glywed yn effeithio ar yr hyn rydyn ni’n ei weld.
Mae Reboot: Moving Music yn rhan o raglen datblygu artistiaid Clod Ensemble, ac mae’n rhad ac am ddim. Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan, anfonwch eich CV a datgan eich diddordeb i reboot@clodensemble.com erbyn dydd Llun 6 Tachwedd, 10yb.
Gweithdy: Drafted in Movement
Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2017, 1yp — 3yp
Ten Feet Tall, £6 (£4)
Yn gymysgedd o gelfyddyd ac anatomeg, ffisiotherapi a dawns, mae’r sesiwn hon o arlunio o’r byw’n rhoi'r corff dynol a’r ffordd mae’n symud ar ddangos. Mae’r artist ac athro Dan Whiteston yn partneru â ffisiotherapydd a dawnsiwr i arwain y digwyddiad unigryw hwn. Bydd dechreuwyr a braslunwyr profiadol fel ei gilydd yn cael dealltwriaeth newydd o safbwyntiau artistig a ffisiolegol, gan dystio’n agos i bosibiliadau anhygoel cyrff sydd wedi’u hyfforddi i fod yn gryf ac yn hyblyg.