• ODE TO THE ATTEMPT

Jan Martens

Mae perffeithrwydd yn ddiflas.

Dawns undyn yw ODE TO THE ATTEMPT y mae Martens wedi’i chreu iddo ei hun. Rhywle iddo gael chwarae o gwmpas ar ôl gwneud rhai darnau dwys, dogmatig bron. Mae dilysrwydd, trin, diffyg brwdfrydedd, perffeithrwydd, hiwmor a phrudd-der yn ffurfio’r eithafion y mae’n symud rhyngddynt. Y canlyniad yw hunanbortread sy’n dinoethi’r dewisiadau y mae’n eu gwneud am ei ffordd o weithio a byw.

‘Ar ôl creu gwaith grŵp ar gyfer wyth dawnsiwr mae bod ar eich pen eich hun ar y llwyfan fel dod adre. Ond ar yr un pryd, mae’n dechrau ffeit gyda chi’ch hun, oherwydd mai dyna natur creu celf: bod â rhywbeth i’w ddweud, gan amau drannoeth a yw’r hyn rydych yn ei ddweud o bwys i neb.’

Bydd darn undyn/un-ddynes a grëir yn ystod yr ŵyl gan artist a ddewisir drwy broses galwad agored yn cael ei berfformio i gyd-fynd â’r perfformiad hwn ar 20 Tachwedd.


‘Campfa i’r meddwl’
New York Times
‘Yn y dyfodol, mae’n debyg na fydd ond un ‘aeth’ - Unigoliaeth - ac ni fydd ei theyrnasiad byth yn dod i ben. O ran crefydd, bydd yn dirywio; o ran priodas, bydd yn cael ei gohirio; o ran ideolegau, ymwrthodir â nhw; o ran gwladgarwch, bydd yn cael ei adael ar ôl; o ran dieithriaid, byddant yn cael eu hamau. Dim ond pot, hunluniau a Facebook fydd yn aros - a’r mwyaf o’r rhain fwy na thebyg fydd Facebook.’
Ross Douthat yn ysgrifennu yn y New York Times

Coreograffi a pherfformio: Jan Martens

Cynhyrchwyd gan GRIP vzw

Mae Jan Martens yn artist preswyl yn Tanzhaus nrw Düsseldorf, ICKamsterdam a DansBrabant