• Roots

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Pedwar darn dawns byr o Gymru, pob un yn wahanol i'r un o'i flaen. Mae Roots yn daith dywys drwy ddawns gyfoes. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cymryd rhai o’i hoff ddarnau gan eu paru â thrafodaeth i’ch helpu i fynd at graidd y storïau a dysgu am gyfrinachau y tu ôl i’r llen.


Mae Rygbi: Annwyl / Dear gan ein Cyfarwyddwr Artistig Fearghus Ó Conchúir yn dathlu rygbi yng Nghymru ac yn amlygu gobeithion, bri ac angerdd tynnu at ein gilydd ar y cae ac oddi arno. Crëwyd Rygbi gyda mewnbwn gan gefnogwyr a chwaraewyr rygbi ar draws Cymru fel bod y ddawns yn sicr yn adleisio'r gamp.

Mae Écrit gan Nikita Goile yn dwyn ysbrydoliaeth o lythyr a ysgrifennwyd gan yr artist eiconig, Frida Kahlo at ei phartner, Diego. Perfformir y ddeuawd glyfar hon gan ddawnsiwr benywaidd a silwét enfawr o'i chariad. Mae'n frwydr o bŵer hardd sy'n adlewyrchu'r da a'r drwg mewn perthnasoedd angerddol.

Mae gwaith Ed Myhill Why Are People Clapping wedi'i osod i Clapping Music y cyfansoddwr Steve Reich, ac mae'n defnyddio rhythm fel ysgogydd. Mae'r dawnswyr yn defnyddio symudiadau bywiog a chlapio i greu trac sain ar gyfer y ddawns hwyliog a deinamig hon.

Mae Codi gan Anthony Matsena, a fagwyd yn Abertawe, am Gymry sy’n dod at ei gilydd i fynd i’r afael ag arwahanrwydd ac iselder yn ystod amserau anoddz


ndcwales.co.uk




Cydnabyddiaethau

Rygbi: Annwyl i mi / Dear to me
Coreograffydd: Fearghus Ó Conchúir

Écrit
Coreograffydd: Nikita Goile

Why Are People Clapping!?
Coreograffydd: Ed Myhill

Codi
Coreograffydd: Anthony Matsena

Credydau llawn ar gyfer yr holl ddarnau i ddilyn