• The Elsewhen Series

Leah Marojević and Theo Clinkard

Ar draws deuawdau The Elsewhen Series, mae Leah Marojević a Theo Clinkard yn parhau gwaith y Rhamantwyr, gan ymgorffori eu gwerthoedd i feddalu’r diwydiannol, cwestiynu cynhyrchiant ac amddiffyn yn gorfforol y gofod breuddwydion.

Wedi’i greu gyda’r syniad o gynulleidfaoedd yn baglu ar eu traws mewn gofodau perfformio anghonfensiynol, mae’r deuawdau hyn sydd wedi’u llunio’n drawiadol yn dod â chrwydriadau byrfyfyr a dyheadau pwerus y galon a’r meddwl i’r byd gweledol drwy barhad, ailadrodd a’r gred ddiniwed nad oes raid i’r corff fod yma; gall fod elsewhen.


Perfformiadau: 

Dydd Sadwrn 23 Tachwedd
g39, rhwng 2yp and 3.30yp

Dydd Sul 24 Tachwedd
Chapter, rhwng hanner dydd a 4yp


Bydd trafodaeth gyda Leah a Theo, a gynhelir gan Groundwork Pro, yn Chapter am 6yh nos Sadwrn 23 Tachwedd. Digwyddiad am ddim, croeso i bawb. Cliciwch yma am wybodaeth.


leahmarojevic.com 
theoclinkard.com 

#TheElsewhenSeries





Cydnabyddiaethau

Wedi’i dyfeisio a’i pherfformio gan Leah Marojević a Theo Clinkard

Cefnogwyd gan Wainsgate Dances, Stiwdio Ymchwil i’r Ddawns, The Place a Stiwdio Wayne McGregor drwy ei rhaglen FreeSpace


Delweddau uchod: Roswitha Chesher