• Tir Cyfreddin/Shared Ground

Gweithdy gyda Fearghus Ó Conchúir

Gweithdy ar wneud grwpiau 


Rhan o ddefnydd parhaus Fearghus o symudiad fel ffynhonnell wybodaeth yw Tir Cyffredin i ganfod sut gallai grwpiau gael eu gwneud.

Bydd Fearghus yn rhannu peth o’i brofiad fel symudwr a gwneuthurwr yn ei bumed degawd fel symbylydd ar gyfer byrfyfyrio a chyfansoddi i grwpiau. Bydd rhywbeth hen-ffash, yn cynhyrchu rhywbeth newydd drwy fenthyca beth bynnag sy’n ddefnyddiol a hyd yn oed yn las. Bydd sesiwn gynhesu, lot o ddawnsio ac eiliadau o fyfyrio a thrafod er mwyn creu mwy o symud.


Coreograffydd, artist dawns a chyfarwyddwr artistig yw Fearghus Ó Conchúir. Wedi’i fagu yn Gaeltacht An Rinn yn Iwerddon, cwblhaodd raddau mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ewropeaidd yng Ngholeg Madlen Rhydychen cyn hyfforddi yn Ysgol Dawns Gyfoes Llundain. 

Gan gydweithredu’n aml ag artistiaid ac arbenigwyr o ddisgyblaethau eraill, mae’n eiriolwr brwd dros yr hyn y gall y ddawns ein helpu i’w ddeall am sut rydyn ni’n byw yn y byd. Mae ei waith, a gyflwynir o gwmpas y byd, yn creu fframweithiau ar gyfer cynulleidfaoedd ac artistiaid i adeiladu cymunedau gyda’i gilydd. 

Ymunodd Fearghus â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel cyfarwyddwr artistig yn 2018.


fearghus.net


Delwedd gan Kirsten McTernan