• Unwrapping d a n s e

Rosalind Crisp

darlith rannol am hanes rhannol
dawns anorffenedig gan gorff dirlawn
gwaith parhaus yn cael ei ddinoethi


Un o artistiaid dawns mwyaf profiadol Awstralia yw Rosalind Crisp. Ers dros ddeng mlynedd ar hugain mae’n ymwneud â beirniadaeth gorfforol radicalaidd o’r ddawns, drwy ddawnsio. 

Yn rhannol yn berfformiad, yn rhannol yn ddarlith, mae Unwrapping d a n s e yn cloddio i bopeth y mae wedi’i greu.


Mae Rosalind Crisp yng Nghaerdydd i arwain Byrfyfyrio Coreograffig, gweithdy deuddydd gyda Groundwork Pro ac i roi’r perfformiad yma o Unwrapping d a n s e.


Gweithdy Byrfyfyrio Coreograffig
Dydd Sadwrn 9 a dydd Sul 10 Tachwedd
Cliciwch yma am wybodaeth


omeodance.com


Crisp, at the height of her powers, proves that the most exciting Australian dancers are not the young and athletic, but dancers with decades of knowledge and experience
The Monthly
A level of depth, an economy of means and elegance of structure that exceeded the show itself
Daily Review


Dyfeisiwyd a pherfformiwyd gan Rosalind Crisp

Cefnogwyd gan Tasdance Tasmania, Sefydliad Mecaneg Orbost, Tanzfabrik Berlin ac Atelier de Paris - Carolyn Carlson

Wedi’i geni yn Omeo, Awstralia, sefydlodd Rosalind Crisp Stiwdio Dawns Omeo ym 1996 – cartref dawns arbrofol yn Sydney ers deng mlynedd. Wedi’i gwahodd i Baris yn 2003, hi oedd aelod cyswllt coreograffig cyntaf Atelier de Paris - Carolyn Carlson. Yn 2015 fe’i hurddwyd gyda Chevalier de l’Ordre des Arts et Lettres gan Ffrainc (Meistres yn y Celfyddydau).


Delweddau uchod: Edita Sentić a Heidrun Löhr