• Which leg are we on?

Good News From The Future

Prosiect cydweithredol cyffrous yw Which leg are we on?rhwng y grŵp theatr gorfforol i’r rhai dros 60 oed, Good News From The Future, a’r myfyriwr cyfansoddi graddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Sam Barnes.

Disgwyliwch berfformiad dilyffethair annisgwyl sy’n cyfuno’r holl egni ac arwahanrwydd sy’n perthyn i berfformwyr Good News From The Future â thrac sain byw gan Sam.


Mae’r perfformwyr yn Good News From the Future wedi dod i nabod ei gilydd mewn ffyrdd sy’n anarferol i gwmnïau ac ensembles. Gan gyfarfod bob mis dros nifer o flynyddoedd, maent wedi dod i nabod, ymddiried yn, a gofalu am, gorfforoldeb ei gilydd ac ymhyfrydu mewn creu patrymau o weithgarwch coreograffig sy’n ddoniol, teimladwy, heriol, agosatoch ac annisgwyl.

Yn hapus yn eu crwyn eu hunain ac yn rhydd rhag unrhyw gyfyngiadau ar sut olwg allai fod arnyn nhw, mae eu haeddfedrwydd yn dod â llond trol newydd o hyfrydwch aton ni.

Mae Good News From The Future yn cynnwys cyn-aelodau o Brith Gof, Theatr Labordy Caerdydd, Prosiect Magdalena, Made in Wales, Man Act a Theatr Iolo. Fe’i cydlynir gan Mike Pearson.


goodnewsfromthefuture.org.uk 
samuelbarnes.co.uk 




Ariennir Which leg are we on? gan ddyfarniad o Gronfa Fusion Help Musicians UK gyda chymorth gan Chapter