• Yn agor yr Ŵyl: Wrongheaded

Cwmni Liz Roche

(Iwerddon)

'The women are here to count, 
To sit together and carve out arms. 
To bury their dead, to feed their living, 
When they are done they can 
Dance in the end clutches of their spat energy,
Bone of bone's, sharp cuckoo barrage.

Sweet desire, 

All spent.'


Yn ddewr ac yn ystyriol, perfformiad dawns sydd wedi’i saernïo’n gain yw Wrongheaded. Yn rhannol yn ffilm, yn rhannol yn destun, yn rhannol yn berfformiad byw, mae’n ymchwilio i syniadau a phrofiadau o gwmpas hunaniaeth gorfforol a gwleidyddiaeth y corff.

Gan fynegi dicter, rhwystredigaeth a gobaith tyner, mae testun barddonol Elaine Feeney yn tanlinellu’r darn, gyda gwaith ffilm gan Mary Wycherley.

Un o brif ymarferwyr dawns Iwerddon yw Liz Roche. Yn ddiweddar, bu ei chwmni, Cwmni Liz Roche, yn perfformio Totems ar gyfer ailagor Oriel Genedlaethol Iwerddon a nhw yw cwmni preswyl Gŵyl Ddawns Dulyn.


Gwybodaeth am y perfformiad

Mae’r perfformiad hwn o Wrongheaded yn dathlu agoriad Gŵyl Ddawns Caerdydd. Estynnir gwahoddiad cynnes i bob deiliad tocyn ymuno â’r derbyniad agoriadol a fydd yn dechrau am 7yh yng nghyntedd sinema Chapter.

Dilynir y perfformiad gan drafodaeth banel arbennig a fydd yn cynnwys Liz RochePreethi Athreya o Basement 21 a’r coreograffydd Marie Béland o Montréal.

Gallwch hefyd weld Wrongheaded nos Iau 9 Tachwedd fel rhan o raglen ddwbl gydag In This Moment Laïla Diallo. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Mae’r berfformwraig o Wrongheaded, Sarah Cerneaux, yn arwain y Dosbarth Bore ddydd Iau 9 Tachwedd fel rhan o’r rhaglen datblygu artistiaid rydyn ni’n ei chynnal gyda Groundwork Pro. Fe’i cynhelir yn y Tŷ Dawns o 9.30yb tan 11yb. Cliciwch yma am wybodaeth.


'Mae ’na daerineb, uniongyrchedd a grym i Wrongheaded sy’n cipio’ch anadl'
The Arts Review

Cydnabyddiaethau
Coreograffi a chysyniad: Liz Roche
Ffilm: Mary Wycherley
Testun: Elaine Feeney
Cynllunio goleuo: Stephen Dodd
Cerddoriaeth: Ray Harman
Perfformwyr: Sarah Cerneaux a Justine Cooper


Mae ymweliad Cwmni Liz Roche â Gŵyl Ddawns Caerdydd yn cael ei gefnogi gan Culture Ireland.