• Mynediad

Rydyn ni eisiau i bawb sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Ddawns Caerdydd gael cymaint o hwyl ag sy’n bosibl.


Byddwn yn cyhoeddi ein rhaglen gyflawn i GDdC19 ym mis Medi. Ar yr un pryd byddwn yn cyhoeddi Canllaw Mynediad ar-lein gyda gwybodaeth am ganolfannau perfformio a pherfformiadau hygyrch.

Bydd mynediad da i holl ganolfannau perfformio’r Ŵyl, e.e. Chapter, Canolfan Mileniwm Cymru.

Bydd tocynnau Hynt ar gael i’r holl berfformiadau sydd â mynediad drwy docyn.

Bydd copïau o’r Canllaw Mynediad ac unrhyw ddeunydd printiedig a gyhoeddir gynnon ni ar gael mewn fformatiau print bras, sain a braille. Bydd y rhain ar gael drwy’r wefan hon neu gellir gwneud cais amdanynt drwy e-bostio info@dance.wales neu ffonio 029 2002 6521.



Delwedd uchod:
Llun llonydd o’r ffilm But Where Are You From?gan Tina Pasotra (GDdC17)