• Galwad agored i ddigwyddiad Sgratsh

Gwahoddiad galwad agored am ddarnau byrion neu ddarn allan o waith hirach ar gyfer digwyddiad sgratsh fel rhan o GDdC19

Rydyn ni’n partneru â Phrifysgol De Cymru ar gyfer digwyddiad sgratsh i’w gynnal ddydd Sul 10 Tachwedd.

Ein nod yw dethol pum artist/grwp o artistiaid, i rannu gwaith sydd ar y gweill. Detholir tri artist drwy’r alwad agored yma a byddwn ni a Phrifysgol De Cymru yn enwebu un artist yr un.


Materion ymarferol:

— Gall y gwaith fod hyd at ddeuddeg munud o hyd

— Bydd y gwaith yn cael ei ddangos mewn fformat stiwdio ym Mhrifysgol De Cymru.

— Dim goleuo, sain yn unig.

Bydd fformat y digwyddiad yn cynnwys cyfle ar gyfer adborth strwythuredig a rhwydweithio â chydweithwyr a’r gynulleidfa.

Os oes gynnoch chi waith yr hoffech iddo gael ei ystyried, anfonwch aton ni:

—  Datganiad artist byr am y darn a CVs cyfredol i chi a’r prif gydweithredwyr eraill. Gellir cyflwyno’ch datganiad artist naill ai’n ysgrifenedig neu fel fideo hyd at 5 munud o hyd.

— Dolen â fideo o’r darn fel y mae ar hyn o bryd. Os nad yw hynny’n bosibl, anfonwch atom ddolen â darn arall rydych wedi’i greu.

— Gwybodaeth am unrhyw anghenion mynediad a all fod gynnoch chi a fydd yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y digwyddiad.

Anfonwch eich cyflwyniad erbyn hanner dydd, ddydd Gwener 4 Hydref 2019 at info@dance.wales.

Ymholiadau a chwestiynau at chris@dance.wales.


Mae’r alwad yma’n agored i ymarferwyr o Gymru a thu hwnt. 

Gallwn gyfrannu £50 tuag at gostau’r artistiaid fydd yn cymryd rhan ym mhob darn a ddetholir.


Cadarnhau manylion y prif ddigwyddiad:

Dyddiad — Nos Sul 10 Tachwedd 2019
Amser dechrau — 6yh
Lleoliad — Stiwdio Dawns, Prifysgol De Cymru

Disgwyliwn i’r artistiaid a ddetholir fod ar gael yn ystod prynhawn y digwyddiad, y manylion i’w cadarnhau.


Gwybodaeth wedi’i diweddaru: 20.9.2019