• Diolch...

Diolch yn fawr i’r sefydliadau lu sy’n cefnogi GDdC19. 

Fyddai hi ddim yn bosib hebddoch chi.


Mae’r prif fuddsoddiad yn yr Ŵyl wedi’i wneud gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’i gefnogaeth i wyliau ar draws Cymru.

Mae ein partneriaid cyflwyno - Chapter, g39, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru – i gyd yn weithgar wrth gefnogi’r Ŵyl. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r holl aelodau staff ym mhob un o’r sefydliadau dan sylw a’r gefnogaeth ymarferol ar ffurf nwyddau a gwasanaethau sy’n helpu i wneud digwyddiadau’n bosibl.

Diolch yn ddiffuant hefyd i bartneriaid ein rhaglen, Groundwork a Phrifysgol De Cymru, am eu cefnogaeth wrth ehangu ymgysylltiad yr Ŵyl.

Diolch hefyd i Surf the Wave. Galluogwyd Performances of Toucha’n gwaith datblygu i gynulleidfaoedd iau drwy gefnogaeth gan ei chronfa Showcase Legacy Support.

A diolch i’r Cyngor Prydeinig am helpu gydag ymweliadau ymchwil yn ystod y cyfnod cynllunio ar gyfer yr Ŵyl eleni.



Delwedd: Delwedd o sesiwn ymarfer i Codi gan Anthony Matsena ar gyfer Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Llun gan Kirsten McTernan.