• Black Out

Compagnie Phillippe Saire

(Y Swistir)

Tri dawnsiwr yn ceisio dygymod â miloedd o ddernynnau gronynnog duon sy’n trawsffurfio eu byd. Delweddau’n gwrthdaro â’i gilydd, gan symud mewn ymateb i olau, sŵn a symudiad. Fesul tipyn, mae’r golau’n ildio ac mae tywyllwch yn cymryd drosodd.


O’i gwylio oddi uchod, mae Black Out yn fendigedig o agosatoch a diddorol. Rywle rhwng dawns, perfformiad a chelfyddyd graffig, dyma brofiad lle na wnaiff canfyddiadau a phersbectifau aros yn llonydd.


Mae Black Out yn digwydd mewn blwch sydd wedi’i adeiladu’n arbennig ar lwyfan y Tŷ Dawns gyda’r gynulleidfa’n edrych i mewn. Mae nifer y tocynnau i bob perfformiad yn gyfyngedig. Ein cyngor yw archebu’n gynnar, yn enwedig os ydych am ddod â grŵp. Cliciwch yma i gael gwybodaeth am y set.

Ymunwch a’r perfformwyr am sesiwn holi ac ateb ar ôl perfformiad 8yh ar 10 Tachwedd.

Mae’r perfformiwr Benjamin Khan o Black Out yn arwain gweithdy o’r enw Into the Dark  fel rhan o’r rhaglen datblygu artistiaid rydyn ni’n ei chynnal gyda Groundwork Pro. Fe’i cynhelir ddydd Sadwrn 11 Tachwedd o 11yb tan 1yp yn y Tŷ Dawns. Cliciwch yma am wybodaeth.


‘Mae Black Out Philippe Saire yn orchestwaith… darlun symudol o olau, cyhyrau a llwch rwber.'
L’Hebdo
'Mae cyflwyniad gweledol y cynhyrchiad dawns hwn, sy’n defnyddio pelenni rwber bychain bach i dynnu llinellau gwynion ar gefndir tywyll, yn hynod drawiadol.’
La Temps

Cydnabyddiaethau
Cysyniad a choreograffi: Philippe Saire
Coreograffi mewn cydweithrediad â’r dawnswyr Philippe Chosson, Maëlle DesclauxJonathan Schatz
Dawnswyr ar daith: Maëlle Desclaux, Mickaël Henrotay Delaunay a Benjamin Kahn
Dramodydd: Roberto Fratini Serafide
Ymgynghorwyr set a goleuo: Sylvie KleiberLaurent Junod
Cynllunio sain: Stéphane Vecchione
Gwisgoedd: Tania D’Ambrogio