• Llunio Symudiadau

Clod Ensemble

Yn gymysgedd o gelfyddyd ac anatomeg, ffisiotherapi a dawns, mae’r sesiwn hon o arlunio o’r byw’n rhoi'r corff dynol a’r ffordd mae’n symud ar ddangos. 


Mae’r artist ac athro Dan Whiteston yn partneru â ffisiotherapydd a dawnsiwr i arwain y digwyddiad unigryw hwn. Bydd dechreuwyr a braslunwyr profiadol fel ei gilydd yn cael dealltwriaeth newydd o safbwyntiau artistig a ffisiolegol, gan dystio’n agos i bosibiliadau anhygoel cyrff sydd wedi’u hyfforddi i fod yn gryf ac yn hyblyg.


Mae Under Glass yn rhedeg o 22 tan 25 Tachwedd yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cliciwch yma i gael gwybod mwy ac archebu tocynnau.

Ac yma ceir gwybodaeth am y gwahanol ddigwyddiadau sy'n rhan o breswyliad Ensemble Clod.


'Mae safon y perfformiad yn syfrdanol ac yn fythgofiadwy.'
★★★★ The Scotsman

Cefnogwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome a Chyngor Celfyddydau Lloegr.