Dropping Stitches

Gweithdy ​dan arweiniad Karl Jay-Lewin

Mewn partneriaeth â Groundwork Pro

Yn ysbryd chwareus a disgybledig gwaith Karl, bydd Dropping Stitches yn edrych ar syniadau am sut mae perfformiad yn cael ei greu.


Beth sy’n weddill pan fydd syniadau’n cael eu gadael ar ôl? Pa awgrym o’r pethau rydyn ni’n eu rhoi o’r neilltu sy’n cael ei ymgorffori yn y gwaith y mae’r gynulleidfa yn ei brofi? A yw ‘pwythau coll’ yn ychwanegu at wead darn o goreograffi?   

Coreograffydd, perfformiwr a chyflwynydd yw Karl Jay-Lewin sydd â’i gartref yn Findhorn yn yr Alban. Cyfarwyddwr creadigol Bodysurf Scotland yw Karl sy’n rhaglennu ac yn cyfarwyddo ei ŵyl dawns a pherfformio cyfoes, RISE! 


Pryd a ble?

Dydd Llun 13 Tachwedd
10yb tan hanner dydd
Chapter

Cost: £6

E-bostiwch groundworkprocardiff@gmail.comi i gadw lle.


Bydd Karl yn perfformio yn Extremely Bad Dancing to Extremely French Music yn Chapter nos Fawrth 14 Tachwedd am 8yh.


'Hyfrydwch pur yw dod ar ei thraws. Heblaw am John Hegley yn canu i mi yn The Lighthouse yn Cromarty y mis diwetha, fedra i ddim meddwl pryd dw i wedi chwerthin yn fwy!’
Susan Christie, Inverness