• Groove On Down The Road

ZooNation

Y cwmni dawns hip-hop arobryn ZooNation a Ganolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno addasiad arbennig o’u hantur ddawns ysgubol i’r teulu, Groove On Down The Road.

Yn dilyn llwyddiant mawr y sioeau Into The Hoods a Some Like It Hip Hop, bydd Groove On Down The Road yn dod â phobl greadigol ZooNation i Gymru i weithio gydag artistiaid ifanc Cymreig dros gyfnod o dri mis, er mwyn ailgreu ac ailddychmygu’r clasur o stori, The Wizard of Oz.

Ymunwch â Dorothy, Toto, Scarecrow, Tin Man a Lion wrth iddyn nhw grŵfio lawr y llwybr melyn yn y siwrnai goreograffig ysblennydd yma. Gyda cherddoriaeth gan Stevie Wonder, Justin Timberlake, Janet Jackson, José González, Janelle Monáe a Miguel, dyma’r siwrnai deuluol fwyaf doniol, amgen a llon yr ochr yma i’r enfys.

@ZooNationUK / #GrooveOnDownTheRoad