• I loved you and I loved you

Sweetshop Revolution

Comisiynwyd a chynhyrchwyd gan Coreo Cymru

Os ydych chi’n cau’ch llygaid ac yn gwrando beth rydych chi’n ei glowed?

Pan fyddai Morfydd Owen yn cau ei llygaid ni chlywai ond cerddoriaeth. Byddai caneuon, symffonïau a darnau i’r piano’n dylifo drwyddi.

Mewn ychydig flynyddoedd byr enillodd fwy o wobrau na neb arall yn hanes yr Academi Gerdd Frenhinol. Ac yna, yn 26 oed, bu farw ar ôl cael llawdriniaeth gan ei gŵr ar fwrdd y gegin.

Mae I loved you and I loved you yn ymdrin â cherddoriaeth Morfydd a’i pherthynas gythryblus â’r dyn oedd yn briod iddi a’r dyn roedd hi’n ei garu.

Yn cael ei pherfformio gan dri dawnsiwr neilltuol, y pianydd Brian Ellsbury a’r soprano Sioned Terry.


‘Gem bach arall yw I loved you and I loved you.’ ****
The Observer

Cyfarwyddwr: Sally Marie
Cyfarwyddwr Cerdd: Brian Ellsbury
Cynllunydd Goleuo: James McKenzie
Cynllunydd Sain: Philip Jeck
Cynllunydd Gwisgoedd: Emma Bailey
Fideograffydd: Roswith Chesher
Cynhyrchwyr: Martin Collins ac Carole Blade
Cynhyrchydd Cynorthwyol: Elisabeth Schiling
Perfformwyr: Faith Predergast, Daniel Whiley, Karl Fagerlund Brekke, Sioned Terry ac Brian Ellsbury

Cydgynhyrchwyd gan Galeri Caernarfon gyda chefnogaeth gan Y Lowry, Trinity Laban, Yr Ysgol Fale Ganolog, Greenwich Dance a National Theatre Wales.

Cefnogir gan gynlluniau Loteri Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru.