• Interruption

Basement 21 ac artistiaid o Gymru

(India/Cymru)

Prosiect a gomisiynwyd gan Ŵyl Ddawns Caerdydd a’i arwain gan Basement 21 

    

Dydd Gwener 17 Tachwedd yng nghanol dinas Caerdydd

O:

8.30yb — Y Farchnad Ganolog 
12yp — ATRiuM, Prifysgol De Cymru
3yp —  Llyfrgell Ganolog Caerdydd
4.15yp — Y Farchnad Ganolog     


Mae’r ymyriad amlddisgyblaethol hwn wedi’i greu gan yr ymarferwyr blaenllaw Preethi Athreya, Padmini Chettur, Lauren Heckler, Siriol Joyner, Pravin Kannanur, Maarten Visser a Joanna Young, gyda Rosalind Hâf Brooks, Gareth Chambers, Robbert van Hulzen, Emma Jenkins, Jessica Lerner, Ashley John Long, Belinda Neave, Marega Palser, Beth Powlesland, Anushiye Darnell a myfyrwyr o Brifysgol De Cymru.

Gyda diolch diffuant i Chapter, Prifysgol De Cymru, Emma Jenkins, Sami Hindmarsh, Croc, Lara Ward, Fieldwork, Cyngor Dinas Caerdydd a phawb ym Marchnad Caerdydd a Llyfrgell Ganolog Caerdydd am wneud i hyn ddigwydd.


Mae Interruption yn rhan o India Cymru, tymor pwysig o gydweithredu artistig sy’n rhan o Flwyddyn Diwylliant y DU-India 2017. 

Diolch i’n cyllidwyr, Y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru – hebddynt ni fyddai Interruption yn bosibl.

Mae Preethi Athreya, Padmini Chettur a Siriol Joyner yn arwain sesiynau Dosbarth Bore fel rhan o raglen datblygu artistiaid rydyn ni’n ei chynnal gyda Groundwork Pro. Cliciwch yma am fanylion am ddyddiadau, amserau a lleoliadau.





Bywgraffiadau o’r prif ymarferwyr

Llwyfan yw Basement 21 sy’n cyflwyno’r hyn sy’n gyfoes mewn celfyddyd. Mae’n ymchwilio i syniadaeth a gweithredu cyfoes drwy ganolbwyntio nid yn unig ar y cynnyrch artistig ond hefyd y broses artistig a’r ddisgwrs o’i chwmpas. Fel hyn, mae’n anelu at ddarparu cyd-destun angenrheidiol gan adael iddo gael ei ailadeiladu. Rheolir Basement 21 gan ymarferwyr profiadol sy’n ymrwymedig i alluogi a chryfhau twf gwaith yn y celfyddydau cyfoes.

Preethi Athreya

Hyfforddodd Preethi Athreya, y coreograffydd a dawnswraig gyfoes sy’n byw yn Chennai, mewn Bharatanatyam ac yn ddiweddarach, yn 2001, aeth yn ei blaen i wneud gradd ôl-raddedig mewn Astudiaethau Dawns yng Nghanolfan Laban yn Llundain. Yn hynod ymwybodol o’i hangen i beidio â chael ei diffinio fel yr ‘arall egsotig’, dewisodd barhau ei siwrnai yn Chennai, y ddinas frodorol.

Rhwng 1999 a 2011, bu’n cydweithio â Padmini Chettur o le yr etifeddodd gynhysgaeth esblygol Chandralekha ac ymrwymiad cryf i ailddiffinio’r corff Indiaidd o hyd.

Gan weithio ym myd dawns gyfoes India fel perfformwraig, coreograffydd a hwylusydd, mae Preethi’n perthyn i gynghrair o wneuthurwyr dawns yn India heddiw sy’n defnyddio dawns fel modd i greu newid. Mae ei hyfforddiant cychwynnol yn Bharatanatyam, a’i hyfforddiant ar ôl hynny i ddad-ddysgu’r cyfyngiadau y bu’r ffurf glasurol hon yn eu gosod ar y corff, i’w holrhain ar draws llawer o’i gweithiau. Y broses sy’n gyrru ei chelf mewn ffordd sy’n ei gwneud yn amlwg o fewn strwythur y gwaith y mae’n ei greu.

Mae ei gwaith ensemble diweddar, The Jumping Project (2015) yn adlewyrchu ymgais i gael hyd i gorff gonest, anhardd o bosibl, ond sy’n gwbl ddiystryw.

Gweithiau eraill yw Kamakshi (2003), Inhabit (2006), Porcelain (2007), Pillar to Post (2007), Sweet Sorrow (2010), Light Doesn’t Have Arms To Carry Us (2013), Anki Bunki Kata (2013), Across, Not Over (2014) a Conditions of Carriage (2015).

Padmini Chettur

Dechreuodd Padmini Chettur ei gyrfa mewn dawns gyfoes ym 1990 fel aelod o gwmni Chandralekha, y coreograffydd modernaidd Bharatanatyam radicalaidd y bu ei opws yntau’n delio’n bennaf â dadadeiladu ffurf Bharatanatyam. Gan dorri i ffwrdd o waith Chandralekha yn 2001, ffurfiodd Padmini ffordd o weithio a symudodd y traddodiad coreograffig i iaith finimalaidd. Gyda’i geirfâu’n deillio o ffenomenoleg, astudiaethau diwylliannol, symudiadau pryfed, seryddiaeth, ffisiotherapi a chwaraeon, creodd iaith weledol – un sy’n pontio ffiniau’r llwyfan. Yn ystod ei gyrfa goreograffig mae wedi cydweithio â cherflunwyr, artistiaid golau, gwneuthurwyr ffilm ac artistiaid sain ar Body Luggage gan Zasha Colah

Bydd Padmini’n cychwyn ar gyfnod ymchwilio a datblygu pob gwaith newydd gyda set o ystyriaethau coreograffig sydd wedi’u mynegi’n fanwl gywir. Bron nad yw ei dull o wneud ymchwil i symudiadau’n wyddonol. Drwy gydol ei gyrfa, mae wedi mynd ati’n fwriadol i fireinio ffurf o hyd ac o hyd. Mae datblygu’r agwedd hon yn esgor ar estheteg gyfoethog sydd ymhell o unrhyw gyd-destun dawns glasurol Indiaidd amlwg. Yn gynnar ar ei thaith fel gwneuthurydd dawns, gwnaeth Padmini benderfyniad ymwybodol iawn i beidio â hyfforddi’n ffurfiol dramor. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio yng ngwead diwylliannol cymuned ddawns Chennai â’i hymrwymiad unigryw.
 

Pravin Kannanur

Artist sy’n gweithio’n bennaf yn y theatr Tamil a’r celfyddydau gweledol yw Pravin Kannanur. 

Bu ei hyfforddiant cynnar yn y theatr yn Theatre National de Strasbourg a’r Theatre du Soleil yn Ffrainc. Bu’n gweithio ac yn hyfforddi yn stiwdio’r haniaethwr, Bhagwan S. Chavan. Wedi cyfarwyddo Don Juan Molière a Caligula Camus i’r grŵp theatr arbrofol Koothu-p-pattarai yn Chennai, aeth Pravin yn ei flaen i gyfarwyddo Veshakkaran (Tartuffe Molière) a Pattam (Richard III Shakespeare) i Magic Lantern, grŵp theatr sy’n credu mewn mynd â theatr at y bobl.

Arweiniwyd Pravin gan yr ymgysylltiad hwn â’r poblogaidd at gyfarwyddo cynyrchiadau ar raddfa fawr gan gynnwys Ponniyin Selvan (drama hanesyddol) Kalki ac Irandayirathil Oruvan (sioe gerdd ysblennydd) Bodhi Music. Roedd hon yn cynnwys y cerddor Maarten Visser a dyma’r tro cyntaf iddynt gydweithio.

Mae hanes hir gan Pravin o weithio gyda dawns gyfoes yn Chennai. Mae wedi cydweithio â’r dawnswragedd/coreograffwyr Padmini Chettur a Preethi Athreya. Gan ddechrau gyda Wings and Masks gyda Padmini, hyd at Conditions of Carriage gyda Preethi. Mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr, dramodydd, cyfarwyddwr technegol a pherfformiwr.

Un o aelodau sefydlu’r cwmni theatr Magic Lantern yw Pravin Kannanur yn ogystal â’r gydweithfa gelfyddydol Basement 21 a Fforwm Theatr yr India. Mae’n credu’n gryf bod rhaid i artistiaid feithrin eu hecosystemau.


Maarten Visser

Rhwng 1994 a 1998, astudiodd Maarten Visser gerddoriaeth fyrfyfyr gyfoes a sacsoffon yn Ysgol Gerdd Brabant yn yr Iseldiroedd. Yn dilyn hyn aeth i Chennai yn India i astudio Cerddoriaeth Garnatig. 

Yn 2000 dechreuodd gydweithio â’r coreograffydd Padmini Chettur, gan gyfansoddi cerddoriaeth i Segment of a Solo (2000), Fragility (2001), 3 Solos (2003), Paperdoll (2005), PUSHED (2006), Beautiful Thing 1 (2008), Beautiful Thing 2 (2011), Walldancing (2012), Varnam (gosodwaith fideo 3 sianel, 2016), Varnam (perfformiad llwyfan 2017).

Yn 2008, rhyddhaodd cd o unawdau sacsoffon. Yn yr un flwyddyn, dechreuodd driawd byrfyfyr, MV3, gyda Keith Peters a Jeoraj George. Erbyn hyn, mae MV3 yn chwarae ar draws India mewn gwyliau, clybiau a digwyddiadau corfforaethol.

Ym mis Ionawr 2011 trefnodd Maarten daith o gwmpas orielau sawl dinas yn India gyda’i driawd arbrofol oto.3, gyda Holger Jetter a Robbert van Hulzen.

Ym mis Rhagfyr 2012 rhoddodd Maarten a’r bardd Vivek Narayanan y perfformiad cyntaf o gywaith ar gyfer y sacsoffon a geiriau. Ehangodd Maarten y gwaith hwn yn brosiect i oto.3 y rhyddhawyd y gerddoriaeth ohono yn 2014.

Yn fwyaf diweddar mae Maarten wedi cyfansoddi gwaith newydd i unawd sacsoffon, yn rhan o gynhyrchiad arbrofol â’r artist gweledol Susmit Biswas, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2017.
 

Siriol Joyner

Coreograffydd o Aberystwyth yw Siriol Joyner. Mae ganddi obsesiwn ag iaith a’i pherthynas â dawnsio a goblygiadau materol a gwleidyddol y cysylltiad hwn. Ar hyn o bryd mae’n dilyn MFA mewn Coreograffi ym Mhrifysgol y Celfyddydau Stockholm.

http://ybarcud.tumblr.com/
http://celticradicals.tumblr.com/
 

Lauren Heckler 

Mae gwaith Lauren Heckler yn adlewyrchu ei gyd-destun ac yn cael ei gyfleu drwy ymyriadau perfformio, sain, fideo a cherfluniol. Yn cael ei gyrru gan agwedd agored a chwilfrydig, mae Lauren yn defnyddio cerdded fel ei man cychwyn ar gyfer casglu syniadau ac mae ei phroses yn esblygu drwy’r sgyrsiau a’r perthnasoedd sy’n deillio o hyn. Yn ddiweddar, mae ei gwaith wedi bod yn ystyried sut mae gwerthoedd sy’n newid yn effeithio ar y dirwedd neu’r dinaslun. Mae gan Lauren ddiddordeb yn y gwrthdaro rhwng hiraeth a’r ysfa i ddatblygu. Mae hefyd yn chwilfrydig am y trawsrannu a’r gwrthdaro rhwng mannau cyhoeddus a phreifat.

Symudodd Lauren i Gaerdydd yn fuan ar ôl graddio mewn Celf Gain: Ymarfer Beirniadol o Brifysgol Brighton yn 2014 ac ers hynny, mae wedi ymgysylltu â gwahanol raglenni celfyddydau gweledol yn lleol yng Nghymru, yn ogystal â mannau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn 2015, Artist Preswyl yng Nghastell Coch oedd Lauren a bu hi hefyd yn creu prosiect ar y safle drwy ei gwaith cydweithredol, Site Sit, o’r enw Village Halls, Llansteffan. Bu’r prosiect hwn yn gwahodd pum artist ar ddechrau eu gyrfaoedd i greu ac arddangos gweithiau newydd mewn ymateb i neuadd y pentre a’i hamgylchedd ehangach. Yn ddiweddar, mae Lauren wedi gorffen preswyliad tri mis yn Stiwdios Elysium yn Abertawe a arweiniodd at ei sioe un-ddynes gyntaf.
 

Robbert van Hulzen

Mae’r offerynnwr taro Robbert van Hulzen yn mwynhau chwarae rywle yn y maes lliwgar rhwng jazz, cerddoriaeth fyd a cherddoriaeth newydd. Yn aml, bydd yn ychwanegu at ei set ddrymiau gydag offerynnau mae’n cael hyd iddynt ar ei deithiau lu, o’r santoor Iranaidd i ysgydwyr Affricanaidd a gongiau o Tsieina.

Yn ogystal â’i brosiect cyfnewid amlddiwylliannol Elephant Songs, mae Robbert ynghlwm â chydweithrediadau parhaus â’r ddawnswraig a choreograffydd Irina Sentjabowa, yr ensemble neo-gamelan Gending, ychydig fandiau (yn amrywio o jazz byd i syrff pync), ac mae’n aelod gweithgar o sîn improv Amsterdam, gan gydweithio â phobl fel Katie Duck, John Dikeman, Dirk Bruinsma a Wilbert de Joode. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar y gerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad newydd gyda Theater Babel Rotterdam. Yn y gorffennol bu’n gweithio gydag amrywiaeth eang o artistiaid gan gynnwys Terri Hron, in Duo Rara Avis, Nitin Sawhney, Merlijn Twaalfhoven, oto.3, Lola Montez, y Phillip Project. Mae’n chwarae ledled Ewrop, yn yr Unol Daleithiau, Canada, Twrci, Palesteina, Iran, Pacistan, India ac Indonesia.

noordkantoor.nl 
 

Joanna Young

Wedi’i disgrifio gan The Dancing Times fel ‘llais coreograffig anturus’, mae gwaith Joanna Young yn gain, wedi’i saernïo yn fanwl ac yn gyfareddol i’w wylio. Mae ei phrosiectau’n ystyried amrywiaeth o gyd-destunau a dulliau. Mae’r rhain yn cynnwys cynyrchiadau llwyfan, gosodweithiau safle-benodol, ffilm a gwaith sy’n ymateb i’r gymuned.

Yn 2017, cwblhaodd Joanna ei gradd feistr mewn Coreograffi yn Y Place, Ysgol Dawns Gyfoes Llundain, gyda rhagoriaeth. Yn ddiweddar, mae wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn parhau i gydweithio ag artistiaid dawns, sain a gweledol rhyngwladol eu bri.

www.joannayoung.co.uk