• OUT

Rachael Young

Experimentica yn cyflwyno


Gan herio homoffobia a thrawsffobia wyneb yn wyneb, deuawd yw OUT - sgwrs rhwng dau gorff sy’n cerfio math newydd o ofod, gan adfer steil y Neuadd Ddawns a dathlu diwylliant Vogueyng nghanol persawr chwerwfelys orennau. 

'We’re shape-shifting in a bid to fit in; to be black enough, straight enough, Jamaican enough…' 

Gan gofleidio anghytgord personol, gwleidyddol a diwylliannol, mae’r weithred yma o hunanfynegiant rhyngddisgyblaethol yn bwrw drwy’r hyn a ystyrir yn dderbyniol neu’n annerbyniol, gan alw am leisiau ac ail-greu symudiadau mewn stwnsh bywiog o gofio ac ailddyfeisio.


Enillydd Gwobr Gŵyl yr Ymylon Brighton A Place to Dance South East Dance yn 2017 ac wedi’i enwebu  ar gyfer Gwobr Ddawns Total Theatre a The Place 2017


rachaelyoung.net


OUT challenges gender conformity and normativity, through raw and pure physical expression. The two performers bare it all on stage, and take us on a demanding, emotional, intense and stimulating journey, elegantly highlighted by oranges.
Cylchgrawn Gŵyl Caeredin ★★★★★


Crëwyd OUT gyda chymorth caredig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Theatr Marlborough, Theatr The Yard, In Between Time, Leicester Curve, South East Dance a Phrifysgol Greenwich

Delwedd: Marcus Hessenberg