• Stiwdio Agored: Placebo

Clod Ensemble

(DU)

Mae Clod Ensemble yn breswyl am wythnos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn eu perfformiadau o Under Glass. Yn y digwyddiad Stiwdio Agored hwn bydd Clod Ensemble yn rhannu peth o’r gwaith y maent wedi dechrau ei greu dros wythnos o ymchwil a datblygu ar brosiect newydd.


Er gwaetha’r ffaith mai hen hen ystryw yw’r ‘effaith plasebo’ a ddefnyddir gan feddygon gweithredol, dim ond yn ddiweddar y mae wedi dod yn destun ymchwil wyddonol go iawn. Ond a oes gan blasebo berthynas ddyfnach â’n trafodaethau diwylliannol? Rydym am ddechrau ystyried beth mae ‘perfformio symptomau’ yn ei olygu. Sut mae’r syniad o rym yn bwydo’r drafodaeth hon? 

Jyst pa mor bell y gall ein cyrff a’n meddyliau gael eu newid gan bobl eraill?

Mae ein holl ddigwyddiadau Stiwdio Agored am ddim. E-bostiwch kit@clodensemble.com os oes diddordeb gynnoch chi mewn mynychu un neu ragor ohonynt.


Bydd Under Glass yn rhedeg o 22 tan 25 Tachwedd yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cliciwch yma i gael gwybod mwy ac archebu tocynnau.

Ac yma ceir gwybodaeth am y gwahanol ddigwyddiadau sy'n rhan o breswyliad Ensemble Clod.

'Mae safon y perfformiad yn syfrdanol ac yn fythgofiadwy.'
The Scotsman ar Under Glass

Cefnogwyd gan Wellcome a Chyngor Celfyddydau Lloegr