• Poggle

Bale Barrowland

(Yr Alban)

Mae Vince yn torri’i fol eisiau crwydro’r goedwig, ond mae ychydig bach gormod o ofn arno i fynd yno ar ei ben ei hun. Un diwrnod mae’n cwrdd â Poggle, creadur clên sydd am roi cymorth iddo. Gyda’i gilydd maen nhw’n mynd ar antur i’r goedwig lle maen nhw’n darganfod y goeden gerddorol hud.

A fydd Vince yn colli ei ofn uchder?


Wedi’i greu’n arbennig i blant o 6 mis i 5 blwydd oed a’u teuluoedd, darn o theatr ddawns twymgalon a synhwyraidd yw Poggle. Gyda cherddoriaeth fyw a chomedi mae yna ddigon drwyddi draw i’ch difyrru chi a’r rhai bach.

Ar ôl y perfformiad bydd plant yn cael y cyfle i grwydro’r set. Pa greaduriaid gallan nhw gael hyd iddyn nhw yn y goedwig?


Mae’r perfformwyr Jade Adamson a Vince Virr o Poggle yn arwain Brave Play, gweithdy am wneud gwaith i gynulleidfaoedd iau fel rhan o’r rhaglen datblygu artistiaid rydyn ni’n ei chynnal gyda Groundwork Pro. Fe’i cynhelir ddydd Iau 8 Tachwedd o 11.30yb tan 1.30yp yn y Tŷ Dawns. Cliciwch yma am wybodaeth.


'Theatr ddawns ar ei mwyaf lluniaidd.’
★★★★★ The Stage
'Stori syml, ie – ond mae’r cynhyrchiad hwn gan Fale Barrowland, wedi’i ddyfeisio a’i goreograffu gan Natasha Gilmore i’r rhai ifancaf, yn mynd yr ail filltir a honno’n filltir hyfryd o ddychmygus yn ei gymysgedd o theatr ddawns sbonciog, cynllun cyfrwys o amlbwrpas, cerddoriaeth fyw a chyfranogiad gan y gynulleidfa.’
★★★★ Glasgow Herald
'Ysbrydolwyd Poggle gan fy mhlant ifanc wrth i mi wylio’r ffordd y bydden nhw’n archwilio a chwarae yn y byd o’u cwmpas. Ro’n i’n dwlu ar eu llawenydd wrth ddarganfod a’u balchder yn eu camp wrth iddyn nhw ganfod sgiliau newydd a rhwystrau gael eu goresgyn. Mae plant yn profi’r fath ryfeddod yn y pethau symlaf. Fel a wna Vince yntau.’
Natasha Gilmore, coreograffydd

Cydnabyddiaethau
Coreograffydd a chyfarwyddwr : Natasha Gilmore
Cyfansoddwr: Daniel Padden
Cynllunio set a goleuo: Fred Pommerehn
Cynllunio gwisgoedd: Alison Brown
Cynhyrchydd: Belinda McElhinney
Perfformwyr: Jade AdamsonRory Haye a Vince Virr

Cydgynhyrchiad yw Poggle rhwng Canolfan Gelfyddydau Macrobert a Bale Barrowland.


Ynglŷn â Bale Barrowland

A’u cartref yn Glasgow, mae Bale Barrowland yn creu gwaith sy’n swyno cynulleidfaoedd lle bynnag maen nhw’n mynd. 

Mae Poggle ar ei siwrnai ei hun o gwmpas Cymru yn ystod misoedd yr hydref. Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’r daith.