• The Morning Groove

Class and Coffee with Annie Hanauer

Dosbarth
9.30yb i 11yb

Gyda chymysgedd o ddeunydd gosod a byrfyfyrio tywysedig, byddwn yn edrych ar fynegiad, llif a gweadau symudiad gan ddefnyddio’r corff, llais a chyffyrddiad i danio ein presenoldeb. Awn ni at y mater difrifol o ddawnsio gan ymagweddu’n hael tuag aton ni’n hunain a’n cyd-ddawnswyr ac yn defnyddio strwythur y dosbarth i ymgysylltu â’n chwilfrydedd a’n mwynhad ein hunain. 

Byddwn yn ceisio ymgysylltu’n ddwfn a hefyd mynd yn chwyslyd wrth ddawnsio i gerddoriaeth. 

Mae’r sesiwn yma’n agored i ddawnswyr profiadol o amrywiaeth o gefndiroedd ac mae croeso i ddawnswyr anabl yn ogystal â rhai heb anabledd.


Digwyddiad caffi
11.30yb i 1yp

Ymunwch ag Annie a thîm Groundwork ar ôl y dosbarth am goffi ac i ddechrau trafodaeth a chlywed barn pobl ac am eu profiadau a strategaethau ynglŷn â ‘Chynrychiolaeth mewn perfformio a rôl yr artist’.


In Rachid Ouramdane's Tenir le temps, Annie Hanauer articulates the choreography with unforced precision, her natural demeanor and smooth transitions the perfect fit for Ouramdane's undulating, abstract patterns.
Dance Magazine