• Touch

Second Hand Dance

Fi sy’n cynnig, ti sy’n dewis. Fi sy’n rhoi, ti sy’n edrych. Rydyn ni’n cyffwrdd. Rydyn ni’n chwarae. Rydyn ni’n dawnsio.


Perfformiad tyner i blantos 0-3 oed i ddarganfod grym y ddawns.

Sioe ddawns fyrfyfyr a rhyngweithiol yw Toucha berfformir gan bedwar dawnsiwr a DJ. Mae oedolion a phlant yn cael y cyfle i wylio, chwarae a dawnsio wrth i’r perfformwyr symud yn hyfryd ac yn ddeheuig i sgôr gerddorol gymysg fyw.

Profiad tyner a chwareus sydd wedi’i saernïo’n gain ac sy’n cadarnhau grym cyffyrddiad a dawns yn yr oes ddigidol.


Amserau’r perfformiadau:

11yb — plant sydd heb eu gollwng
2yp — plant sy’n cerdded 

Dylech nodi bod sioeau i ‘blant sydd heb eu gollwng’ yn dyner ei naws ac i blant o 4 mis nes eu bod yn cerdded. Os ydych yn dod â phlant o wahanol oedrannau, dewiswch y perfformiadau i blant sy’n cerdded.


Lovely, lively and engaging throughout
The Stage


Cydnabyddiaethau

Coreograffi: Rosie Heafford
Perfformwyr: Amarnah Amuludun, Mariana Camiloti, Takeshi Matsumoto a Michael Sherin
Cynllunydd: Ben Pacey
Cynllunydd Sain/Rheolwr Technegol: Froud
Cyfarwyddwr Sesiynau Ymarfer: Keir Patrick
Dramodydd: Katherine Morley
Cynhyrchydd Gweithredol: Claire Summerfield yn Tandem Works

Wedi’i gomisiynu gan The Place a Pavilion Dance South West a’i gefnogi gan The Egg a Gulbenkian, Prifysgol Caint gyda chyllid y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr