• Ways of Being Together

Jo Fong

(Cymru)

Dyma goreograffi i lawer o bobl
Nid dawns mohono
Symudiad yw e
Y weithred o ddod â phobl at ei gilydd
Y gelfyddyd o ddod â phobl at ei gilydd


Mae Jo Fong wedi bod yn hel pobl.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi cynnal cyfres o sgyrsiau a gweithdai ynghylch y syniad o berthyn.

Mae rhai wedi bod wrth fyrddau cegin, rhai mewn gofodau stiwdio yn Chapter a rhai ymhellach i ffwrdd. Roeddent i gyd i’w gweld yn dychwelyd at ddau gwestiwn. Beth yw ystyr perthyn? A beth yw ystyr bod gyda’n gilydd?

Mae Ways of Being Together yn ymgorffori’r rhain fel a ŵyr Jo orau. Gyda theimladrwydd, hiwmor smala a throeon annisgwyl.

Dyma’r tro cyntaf y bydd Ways of Being Together wedi cael ei berfformio. Gallwch ddisgwyl llwythi o berfformwyr a llawer o bersbectifau. Bydd yn codi gwên bid siŵr a dylai fod yn brofiad bythgofiadwy.

Rhai pethau i’w nodi am y perfformiad:

Bydd Ways of Being Together yn dechrau am 6yh ac yn gorffen tua 9yh, efallai ychydig ynghynt, o bosib ychydig yn hwyrach.

Perfformiad hygyrch: dehongli BSL gan Julie Doyle.


'Tipyn o chwedl yw Jo Fong ym myd y ddawns gyfoes yn y DU. Mae wedi gweithio gyda phawb, o Rosas i DV8 i Rambert, a chanddi enw fel perfformwraig garismataidd a choreograffydd diflino o ymchwilgar.’
The Observer

'The seed for the work came from my personal feeling about place, relationship and about a sense of belonging. My recent Creative Wales Award project was centred around this, about Cardiff and people. I studied the art and the act of bringing people together. We talked about community, inclusivity, collaboration. We also talked about friendship, parties, responsibility and then we also got to talking about motivation, impact and sustainability. 

'This new dance theatre production is born of and living alongside this conversation. A sense of belonging is intimate and powerful, connected, optimistic, unknown and curious making. The planned performance is in response to what is going on in the world right now, it is an action - in these times it seems essential to work on our Ways of Being Together.'

— Jo Fong

Cydnabyddiaethau
Coreograffydd a chyfarwyddwr prosiect: Jo Fong 
Y tîm creadigol: Rosalind Haf BrooksBeth PowleslandLara WardRichard BowersGareth ClarkMichael Cobb and Heloise Godfrey-Talbot
Delweddau o weithdai: Jamie Morgans

Mae Ways of Being Together wedi cael ei chomisiynu gan Ŵyl Ddawns Caerdydd a Chapter, gydag ymchwil wedi’i chefnogi gan South East Dance.

Diolch i Brifysgol De Cymru a Memo’r Barri am gymorth ymarferol ac anogaeth.


Ynglŷn â Jo Fong

Cyfarwyddwraig, coreograffydd a pherfformwraig yw Jo Fong sy’n gweithio ym meysydd dawns, ffilm, opera, theatr a’r celfyddydau gweledol. Mae’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd er 2006—2017.

Mae Jo wedi mynd â’i gwaith ar daith ledled y DU ac i wyliau rhyngwladol. Dewiswyd ei darn enwog An Invitation... ar gyfer Sioe Arddangos Caeredin y Cyngor Prydeinig a British Dance Edition. Yn ddiweddar, creodd Jo brosiectau ar gyfer Blwyddyn Diwylliant Hull a Gŵyl Xintiandi 2017 yn Shanghai

Artist Cyswllt Peilot yw Jo gyda Chapter, Ymchwilydd Cyswllt gyda South East Dance a pherfformwraig reolaidd gyda Theatr Quarantine.