• Galwad agored: Comisiwn hadu

Comisiwn hadu am brosiect dawns neu theatr ddawns newydd ar gyfer cynulleidfaoedd iau
 

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymorth Showcase Legacy Surf The Wave pleser o’r mwyaf gynnon ni yw gwahodd cynigion am gomisiwn hadu i ymarferwr yng Nghymru ddatblygu cynnig am brosiect dawns neu theatr ddawns newydd ar gyfer cynulleidfaoedd iau.


Cefndir

Ar ôl Sioe Arddangos Ddawns y DU yn ystod mis Mai y llynedd, cyflwynwyd cais gynnon ni i Surf The Wave am gymorth tuag at ddatblygu gwaith i gynulleidfaoedd iau yng Nghymru.

Bu’r rhan gyntaf o’r prosiect yn gweld Second Hand Dance yn perfformio Touch fel rhan o ŴylDdawnsCaerdydd ym mis Tachwedd. Ers hynny rydym wedi dechrau datblygu cynllun gweithredu i gefnogi datblygu cynulleidfaoedd a chyflwyno gwaith gan rwydwaith o bartneriaid ar draws Cymru yn y dyfodol. Mae’r drydedd ran o’r prosiect yn cynnwys y comisiwn hadu yma fel ffordd o hybu creu darn newydd o waith.

Manylion y comisiwn

Nod y comisiwn hadu yw helpu ymarferwr unigol a all fod yn gweithio drwy gwmni prosiect i ddatblygu cynnig y gallwn geisio ar y cyd am gymorth i ddatblygu’r cynhyrchiad. Mae gynnon ni £1,500 ar gael am y comisiwn. Does dim angen arian cyfatebol ar hyn o bryd, ond efallai y bydd adnoddau eraill gan ymgeiswyr y gallant eu defnyddio.

Gellid defnyddio ein cymorth i dalu amrywiaeth o gostau. Gallai hyn gynnwys cyfnod ychydig yn hirach i rywun ddatblygu cynnig ar ei ben ei hun, neu amser mewn stiwdio i nifer fach o ymarferwyr os oes testun ymchwiliad artistig y byddai’n fuddiol gydweithio arno âphobl eraill.

Mae’r comisiwn yn agored i unrhyw ymarferwr dawns neu theatr ddawns yng Nghymru. Dylid cwblhau’r gwaith ar y comisiwn erbyn diwedd mis Mehefin 2020. O gofio’r argyfwng iechyd presennol, gwerthfawrogwn efallai y bydd yn rhaid i ni fod yn hyblyg ynghylch hyn, ond rydyn ni’n awyddus i symud ymlaen gyda’r comisiwn gan ein bod yn gwybod y gallai’r incwm fod yn fuddiol i un neu fwy o ymarferwyr llawrydd dros y misoedd nesaf.

Cyflwyno cynnig

I gyflwyno cynnig rhaid anfon aton ni:

— Disgrifiad, gorau fedrwch chi ar hyn o bryd, o’r prosiect rydych yn awyddus i’w ddatblygu (hyd at 300 o eiriau)

— Datganiad ynglŷn â’ch diddordebau o ran dawns i gynulleidfaoedd iau (hyd at 200 o eiriau)

— Disgrifiad byr o ba gostau y byddai’r comisiwn hadu’n cael ei ddefnyddio i’w talu a’ch amserlen i’r prosiect.

Croesewir cyflwyniadau fideo yn lle’r uchod. Gwnewch yn siŵr fod unrhyw ddeunydd fideo heb fod yn hirach na 10 munud. Dylech naill ai anfon dolen  Vimeo/You Tube wedi’i diogelu gan gyfrinair (ynghyd â’r cyfrinair hwnnw), neu ei anfon atom gan ddefnyddio gwefan rhannu ffeiliau, e.e. WeTransfer.

Dylid cyflwyno cynigion drwy e-bost at info@dance.wales erbyn 10yb ddydd Mercher 8 Ebrill 2020.

Cydraddoldebau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn yr oll rydyn ni’n ei wneud. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan y rheini sydd ar hyn o bryd wedi’u tangynrychioli yn ein gwaith, yn enwedig pobl groenliw a phobl anabl (fel a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010).

Os ydych yn cyflwyno cynnig, cwblhewch y ffurflen monitro cyfle cyfartal a geir ar y ddolen hon.



Delwedd uchod:
Second Hand Dance, Touch (GDdC19)