• Maxyme G. Delisle
  • CDdC yn lansio manylion ei digwyddiad agoriadol

Mae trefnwyr Gŵyl Ddawns Caerdydd 2015 (GDdC15) yn falch o gyhoeddi manylion y digwyddiad agoriadol eleni. Datgelwyd y rhaglen ar gyfer GDdC15 mewn digwyddiad lansio a gynhaliwyd yn Chapter, Caerdydd nos Iau 10 Medi.

Menter eilflwydd newydd yw Gŵyl Ddawns Caerdydd sydd eleni yn cael ei chynnal rhwng 10 a 22 Tachwedd.

Mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys gwaith gan rai o’r prif gwmnïau ac ymarferwyr yng Nghymru, yn eu plith Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru ac Eddie Ladd, ochr yn ochr â gwaith rhagorol gan artistiaid o fri o’r DU a thramor megis ZooNation, Dana Michel ac Igor a Moreno.

Bydd perfformiadau’n digwydd yn Chapter, y Tŷ Dawns a Chanolfan Mileniwm Cymru dros ddeuddeng niwrnod yr ŵyl.

Yn ymweu drwy’r rhaglen berfformiadau bydd ymchwiliad i’r berthynas rhwng dawns a cherddoriaeth, gyda llawer o ddigwyddiadau’n cynnwys cerddoriaeth fyw neu seinluniau gwreiddiol.

Dawns Ysbrydion sy’n agor GDdC15 nos Fawrth 10 Tachwedd yn y Tŷ Dawns. Cafwyd y perfformiad cyntaf o Dawns Ysbrydion, cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ar y cyd â Galeri, yng Ngŵyl yr Ymylon Caeredin ym mis Awst 2015 a bydd yn rhedeg yn GDdC15 am bedair noson fel rhan o’i thaith drwy Gymru.

Gyda’r berfformwraig o fri’n rhyngwladol Eddie Ladd yn arwain cast o ferched yn unig, mae’n adrodd hanes diwylliannau sydd mewn perygl, 50 mlynedd ers boddi pentref yng ngogledd Cymru i greu cronfa ddŵr Tryweryn. Wedi’i hysbrydoli gan ddawnsiau ysbrydion a fyddai’n cael eu perfformio gan rai o Genhedloedd Cyntaf Gogledd America ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyd-gyfarwyddir y darn gan Ladd a’r coreograffydd o Montréal Sarah Williams, gydag electro-sgôr wreiddiol fyw gan Y Pencadlys.

Ar nos Fercher 11 a nos Iau 12 Tachwedd, bydd Chapter yn llwyfannu Idiot-Syncrasy. Wedi’i henwebu ar gyfer Gwobrau Total Theatre 2015, perfformiad hyfryd ac ysmala yw Idiot-Syncrasy gan Igor Urzelai a Moreno Solias – dau artist rhyngwladol sydd â’u cartref yn Llundain ac sy’n perfformio ar draws Ewrop.

Bydd yr artist mawr ei bri o Montréal Dana Michel hefyd yn dod â’i sioe Yellow Towel i Chapter rhwng 17 a 18 Tachwedd. Yn blentyn, byddai Michel yn taenu tywel melyn am ei phen er mwyn iddi fod yn debyg i’r merched penfelyn yn ei hysgol. Yn Yellow Towel mae’n ailymweld â byd dychmygol ei hunan arall mewn perfformiad defodol heb wyngalchu na sensoriaeth gan ymchwilio i stereoteipiau’r diwylliant du mewn perfformiad cyfareddol.

Bydd Groove on Down the Road, sy’n rhedeg yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o ddydd Gwener 13 Tachwedd am 6 pherfformiad, yn gweld y cwmni dawns hip-hop arobryn ZooNation yn gweithio â doniau dawns ifainc o Gymru i ail-greu ac ailddychmygu’r stori glasurol The Wizard of Oz. Bydd y siwrnai hon sydd wedi’i choreograffu mor ysblennydd yn cynnwys cerddoriaeth gan Stevie Wonder, Justin Timberlake a Janet Jackson.

Ymhlith y perfformiadau eraill yn ystod GDdC15 y mae Studies for Maynard gan Simon Whitehead; Cheap Lecture a The Cow Piece gan Jonathan Burrows a Matteo Fargion; Ode to the Attempt gan Jan Martens; ynghyd â’r perfformiad cyntaf gan Good News from the Future o Gaerdydd.

Rhaglennir Gŵyl Ddawns Caerdydd gan Chris Ricketts ac mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Fieldwork. Yn ôl Chris Ricketts, “Ar ôl gorfod cadw’r manylion dan gaead mae’n wych cael lansio rhaglen GDdC15. Mae cynulleidfa frwd iawn dros y ddawns yng Nghaerdydd. Rydym yn awyddus i’r ŵyl fwydo’r diddordeb hwnnw ac wedi trefnu perfformiadau gan rai cwmnïau anhygoel. Dros yr ychydig flynyddoedd nesa ein gobaith yw y bydd Gŵyl Ddawns Caerdydd yn gallu sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â rhai o wyliau dawns gorau Ewrop gan ddod yn ganolbwynt cryf ar gyfer y ddawns yn ein dinas."

Yn ogystal â’r perfformiadau, bydd llawer o brosiectau eraill i gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys gweithdai a thrafodaethau. Gorllewin Caerdydd fydd un o’r prif brosiectau a fydd yn gweld gwaith cymunedol dwys yn digwydd yn ardaloedd Trelái, Caerau a’r Tyllgoed yng Nghaerdydd. Bydd rhaglen gyfranogi lawn GDdC15 yn cael ei chyhoeddi ar ddechrau mis Hydref.

Cefnogir GDdC15 gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd. Partneriaid cyflwyno arweiniol GDdC15 yw Canolfan Mileniwm Cymru, Chapter a’r Tŷ Dawns. Mae partneriaid ychwanegol y rhaglen sy’n cyfrannu i’r digwyddiadau ar y gweill yn cynnwys Coreo Cymru, Creu Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Rubicon Dance.

Am fwy o fanylion, gan gynnwys tocynnau, ewch at www.dance.wales.

-DIWEDD-

Am fwy o fanylion am Ŵyl Ddawns Caerdydd cysylltwch â:

Elin Rees
elin@elinrees.com