• Polisi Preifatrwydd

Pwy ydym ni?

Mae Gŵyl Ddawns Caerdydd yn gwmni cyfyngedig, rhif cofrestri 08727527. Ein cyfeiriad cofrestriedig a’n cyfeiriad cyfathrebu ydi: Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE, Y Deyrnas Unedig.

Pa ddata personol yr ydym yn ei gasglu o’r cyhoedd?

Pan fyddwch yn ymaelodi a’n rhestr tanysgrifio byddwn yn casglu eich cyfeiriad ebost ac yn rhoi’r opsiwn i chi rannu eich enw, eich cwmni a’ch rhif ffôn symudol. Byddwn hefyd yn holi os ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae ein rhestr tanysgrifio yn cael ei reoli trwy gyfrif MailChimp.

Mae tocynnau ar gyfer y mwyafrif o ddigwyddiadau Gŵyl Ddawns Caerdydd yn cael eu gwerthu gan ein partneriaid. Pan fyddwn yn gwerthu tocynnau neu’n delio ag archebion yn uniongyrchol, byddwn yn casglu gwybodaeth am eich enw a’ch cyfeiriad. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn gofyn i chi am anghenion mynediad, neu oed eich plant os ydych yn archebu ar eu cyfer. Ni fyddwn yn gofyn am fwy o wybodaeth nag sy’n angenrheidiol ar gyfer y digwyddiad dan sylw. Pan fydd angen gwybodaeth talu, ni fyddwn yn cadw manylion ariannol personol yn hirach na’r angen er mwyn cwblhau’r broses taliadau. Rydym yn achlysurol yn defnyddio darparwr arlein megis Eventbrite i reoli archebion.

Mae ein gwefan yn casglu gwybodaeth personol trwy ddefnyddio cwcis. Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethau ieithyddol a’r opsiwn i ddefnyddio gwelediad hwy ar y wefan. Mae cwcis hefyd yn cael eu defnyddio i storio gwybodaeth wrth fonitro traffig i’r wefan trwy Google Analytics.

Mae’r cwmnïau sydd wedi eu henwi yn yr adran hon yn meddu ar bolisïau unigol yn ymwneud â phreifatrwydd a defnydd cwcis. Gallwch ddarllen manylion y polisïau yma ar wefannau’r cwmnïau unigol.

Sut rydym yn defnyddio’r data?

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth personol a gesglir er mwyn ein cynorthwyo i reoli eich presenoldeb mewn digwyddiadau ac i anfon deunyddiau marchnata am ein gweithgareddau, cyfleon i gefnogi ein gwaith, ac yn achlysurol, am ddigwyddiadau dawns eraill yng Nghymru.

Rydym hefyd yn dadansoddi y data er mwyn deall sut mae ein cynulleidfaoedd yn ymwneud â ni. Mae hyn yn ein cynorthwyo i adolygu a gwella ein gweithgarwch fel cwmni. Mae dadansoddi yn cynnwys monitro cynulleidfaoedd a data ymwneud, ac effeithlonrwydd ein gweithgarwch cyfathrebu.

Nid ydym yn rhannu gwybodaeth bersonol yn cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad ebost gydag unrhyw sefydliad arall. Mae’n bosib y byddwn yn rhannu data anhysbys gyda sefydliadau fel ein partneriaid ac asiantaethau nawdd sy’n cefnogi ein gwaith. Nid ydi’r data yma yn cynnwys gwybodaeth uniongyrchol am unigolion.

Sut rydym yn storio data ac yn ei gadw’n ddiogel?

Mae unrhyw wybodaeth personol fel arfer yn cael ei storio yn ddiogel ar gyfrifiaduron o dan gyfrinair. Pan fo gwybodaeth yn cael ei gadw ar bapur – e.e. ffurflen archebu – bydd yn cael ei gadw mewn lleoliad diogel o fewn swyddfa.

Nid ydym yn cadw gwybodaeth bersonol yn hirach na’r angen er mwyn cyflawni’r pwrpasau prosesu.

Mynediad i’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Er mwyn gwneud hynny, ebostiwch neu ysgrifennwch at y cyfeiriad isod. Byddwn hefyd yn medru addasu unrhyw wybodaeth sy’n anghywir ac mae’r hawl gennych i beidio parhau â thanysgrifio. Cliciwch yma os ydych yn dymuno terfynnu’r tanysgrifio nawr.

Diweddaru’r Polisi

Byddwn yn adolygu y polisi hwn yn rheolaidd ac yn gwneud newidiadau o dro i dro. Cafodd y fersiwn hwn ei ddiweddaru a’i gyhoeddi ar 26 Mai 2018.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn gymwys ar gyfer Gŵyl Ddawns Caerdydd yn unig. Mae’n bosib y bydd ein gwefan a’n deunyddiau marchnata yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Pan rydych yn cysylltu â gwefannau eraill gallwch ddarllen eu polisiau preifatrwydd unigol.

Cysylltu

Os dymunwch gysylltu, medrwch ebostio info@dance.wales neu ysgrifennu at Gŵyl Ddawns Caerdydd, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE, Y Deyrnas Unedig.