• Cheap Lecture a The Cow Piece

Jonathan Burrows a Matteo Fargion

'Mae Jonathan Burrows a Matteo Fargion wedi creu perfformiad sy’n dawnsio yn eich pen. Mae’n wych.' De Morgen, Gwlad Belg

Mae hyfrydwch yn disgleirio o waith Burrows a Fargion hyd yn oed wrth iddo beri i’r gynulleidfa feddwl. Dros y deng mlynedd diwethaf maent wedi creu corff o ddeuawdau sy’n cyfuno ffurfioldeb cyfansoddi cerddoriaeth glasurol ag ymagwedd agored sydd yn aml yn anarchaidd tuag at berfformiad a chynulleidfaoedd, gan ddod â dilynwyr iddynt ar draws y byd.

Yn Cheap Lecture mae’r ddau ddyn yn dwyn ffurf Lecture on Nothing gan John Cage i roi esboniad angerddol a mwyfwy gwallgof am eu gwaith.

Mae’n cael ei dilyn gan The Cow Piece, sy’n ail-lwyfannu’r ddarlith fel dathliad swnllyd o derfynau rhesymeg, lle mai dau fwrdd yw’r llwyfan ar gyfer deuddeg buwch blastig sy’n dawnsio, canu, siarad, meddwl, cysgu, mynd, dod ac yn marw mewn cyfres o ddienyddiadau defodol sydd wedi plesio a bwrw cynulleidfaoedd oddi ar eu hechel ledled y byd.

Ychydig ymarferwyr sydd wedi cael y dylanwad y mae Burrows a Fargion wedi’i gael. Mae eu gwaith yn ffraeth, yn feddylgar ac yn hynod ddifyr. Rydym wrth ein boddau eu bod gyda ni fel rhan o’n gŵyl gyntaf.


'Ychydig berfformwyr sy’n gallu dal cynulleidfa’n gaeth fel y deuawd yma… mae amseriad pob nodyn, ystum, chwerthiniad ac osgo’n aruthrol.' *****
The Guardian
'…ar brydiau, o deimlo’n brudd yn ystod rhyw berfformiad neu’i gilydd, dw i wedi bod eisiau i ryw goblyn theatr sydd hefyd wedi laru gipio ymaith y sioe dw i’n ei gwylio gan adael Burrows a Fargion yn ei lle.'
Deborah Jowitt, DanceBeat
‘Sut maen nhw’n nodiannu’r fath gymhlethdod o ystum, sain, gair, celfi a symudiad… Pa mor hir mae’n ei gymryd iddynt greu’r pos dieflig yma? Hidiwch befo - ewch i weld hon, da chi... Gallai fod yn flynyddoedd cyn iddynt ddod yn eu holau.’
The Arts Desk

Cefnogir Jonathan Burrows a Matteo Fargion gan Kaaitheater Brwsel, PACT Zollverein Essen, Sadler’s Wells Theatre a BIT Teatergarasjen Bergen. Cydgynhyrchwyd The Cow Piece gan Kaaitheater Brwsel gyda chefnogaeth y Weinyddiaeth Ddiwylliant Ffleminaidd.

Ar hyn o bryd, artistiaid mewnol ydyn nhw gyda’r Nightingale yn Brighton.