• Kirsten McTernan
  • Kirsten McTernan
  • Kirsten McTernan
  • Dawns Ysbrydion

Theatr Genedlaethol Cymru

Mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon

Hanner can mlynedd yn ôl, boddwyd pentre Cymraeg i greu cronfa ddrwg-enwog Tryweryn. Cafodd teuluoedd eu dadwreiddio, tir ei golli a chymuned Gymraeg ei chreithio.

Wedi’u hysbrydoli gan y Dawnsiau Ysbrydion a berfformiwyd gan rai o Genhedloedd Cyntaf Gogledd America ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Dawns Ysbrydion yn cynnig safbwynt rhyngwladol gafaelgar ar dynged Capel Celyn a’i pherthnasedd p arhaus hyd heddiw.

Gyda chast merched yn unig dan arweiniad Eddie Ladd, mae Dawns Ysbrydion wedi’i chydgyfarwyddo gan Eddie a’r coreograffydd o Montreal, Sarah Williams. Mae’n cynnwys electro-sgôr fyw gan Y Pencadlys.

@TheatrGenCymru / #dawnsysbrydion and #ghostdance

Cyfarwyddwyr: Eddie Ladd a Sarah Williams
Coreograffydd: Sarah Williams
Cynllunydd: Simon Banham
Cynllunydd Goleuo: Lucie Bazzo
Dramatwrg: Roger Owen
Cerdd: Y Pencadlys
Perfformwyr: Angharad Price Jones, Eddie Ladd, Anna ap Robert ac Y Pencadlys