• Don't think about a purple daisy

Joanna Young

Dechreuodd Don’t think about a purple daisy fel prosiect ymchwil yn edrych ar syniadau o ddewis, annibyniaeth ac ewyllys rydd. Yn y pen draw, daethom i sylweddoli bod ymchwilio i’r pethau hyn i ni hefyd yn golygu ymchwilio i ‘sut rydyn ni’ gyda phethau a phobl.

Yn codi o’r ymchwil honno, mae’r gosodwaith perfformio hwn sy’n cyfuno sain, ffilm a dawns yn edrych yn betrus ar beth yw ystyr bod.

Bod. Bod gyda threfn – bod gydag anhrefn. Bod gyda. Chi’n bod. Bod dynol. Bod gyda theimladau. Bod gyda phethau. Bod ar ein pennau’n hunain. Bod gyda phobl. Bod gyda meddyliau a syniadau a hebddynt.

Mae Joanna a’i chydweithwyr yn mynd i fod yn breswyl yn Chapter yn ystod wythnos gyntaf Gŵyl Ddawns Caerdydd gan weithio ar gyfnod cynhyrchu olaf y prosiect. Bydd rhannu ar y dydd Sul y gwaith sydd wedi’i wneud yn cynnwys perfformiad a gosodwaith. Gyrrwch e-bost at info@dance.wales os hoffech gael gwahoddiad.

Bydd Joanna yn cynnal cyfres o sesiynau agored yn ystod y preswyliad. Bydd y manylion yn cael eu postio ar ei gwefan ac ar yr hysbysfwrdd yng nghyntedd Chapter.

@JoannaYoungCo

'Llais coreograffig anturus'
Dancing Times
'Dyma ddefnydd y cof yn cael ei ddangos yn ei holl fanylder eglur'
Writing about dance

Coreograffydd: Joanna Young
Cyfansoddwr: Jamie McCarthy
Artist dawns: Belinda Neave
Ymgynghorydd cynllunio: Gerald Tyler

Ariannwyd a’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Work Space Brwsel, Creu Cymru, Theatr y Fwrdeistref y Fenni a Dance Blast.