• Sesiwn ddwys ar gyfer dawns a cherddoriaeth fyw

Earthfall

Mewn cysylltiad â Ballet Cymru

Datblygwch eich sgiliau symud, cerddoriaeth fyw a dyfeisio yn y sesiwn ddeuddydd ddwys yma. Dan arweiniad Jessica Cohen, Cyd-gyfarwyddwr Artistig Earthfall, a rhai o berfformwyr hynod dalentog y cwmni, dyma gyfle gwych i fynd â’ch gwybodaeth a’ch gwaith gam ymhellach.

Yn addas i ymarferwyr dawns, theatr gorfforol a cherdd sy’n gweithio’n broffesiynol, sydd wedi graddio’n ddiweddar neu sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant.

Ac mae’n hollol ddi-dâl.

Cofrestrwch isod neu glicio yma i fynd at dudalen archebu gyflawn Eventbrite.

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Os na allwch chi fod yn bresennol, a wnewch chi ildio’ch tocyn fel y gall eraill gael cyfle.

Anogir cerddorion i gysylltu â Kelly yn Earthfall i drafod offerynnau ac unrhyw anghenion ychwanegol.

Kelly Barr
e. education@earthfall.org.uk
ff. 02920 221314


Roeddwn yn ddigon ffodus i fynychu dosbarthiadau datblygu proffesiynol Earthfall a chael eu bod nhw nid yn unig yn andros o hwyl ond yn anhygoel o ddefnyddiol wrth ddatblygu fy sgiliau a thechnegau fel dawnswraig. Dw i’n methu aros cymryd rhan ynddyn nhw eto.
Cêt Haf, dawnswraig lawrydd

Mae sesiynau datblygu proffesiynol dwys Earthfall yn cael eu cefnogi gan Ballet Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Mae Ballet Cymru yn meithrin datblygiad creadigol dawnswyr yng Nghymru drwy eu rhaglenni Cyswllt, preswyliadau a dwys.

Mae Earthfall a Ballet Cymru yn teithio drwy Gymru a Lloegr yn ystod yr hydref eleni. I gael gwybod mwy ac archebu tocynnau, dilynwch y dolenni isod:

Earthfall - Stories from a Crowded Room
http://www.earthfall.org.uk/efstories/tour-dates/

Ballet Cymru - TIR and Cinderella
http://welshballet.co.uk/whats-on/tour-dates/