Karl Jay-Lewin a Matteo Fargion
(DU)
'Hyfrydwch pur yw dod ar ei thraws. Heblaw am John Hegley yn canu i mi yn The Lighthouse yn Cromarty y mis diwetha, fedra i ddim meddwl pryd dw i wedi chwerthin yn fwy!’ — Susan Christie, Inverness
Mae Extremely Bad Dancing to Extremely French Music yn cynnwys unawdau piano, dawns a thestun wedi’u golygu o gwmpas strwythurau rhythmig caeth.
Maent yn rhychwantu’r gwleidyddol amlwg, y cynnil a’r anunion, gan amrywio o ran hwyl ac emosiwn o’r eithriadol ddigynnwrf a’r eithriadol harmonig, i’r eithriadol swnllyd a’r eithriadol aflednais. Heb os, bydd yna ddawns eithriadol o wael i gyfeiliant cerddoriaeth sy’n eithriadol o Ffrengig.
Crëwyd Extremely Bad Dancing to Extremely French Music gan y coreograffydd Karl Jay-Lewin a’r cyfansoddwr mawr ei fri ymhlith y beirniaid, Matteo Fargion. Fe’i perfformir gan Karl a’r pianydd Tim Parkinson.
Mae Karl Jay-Lewin yn arwain gweithdy perfformio o’r enw Dropping Stiches fel rhan o’r rhaglen datblygu artistiaid rydyn ni’n ei chynnal gyda Groundwork Pro. Fe’i cynhelir ddydd Llun 13 Tachwedd o 10yb tan hanner dydd yn Chapter. Cliciwch yma am wybodaeth.
'Yn ffodus, mi welais sioe ogoneddus o ddoniol/ trist / hyfryd / gwrthryfelgar Karl Jay-Lewin yn y Traverse...'
Morag Deyes, Dance Base
'Hefyd mae ganddi deitl ardderchog – pwy sydd heb ffustio o gwmpas yn breifat i Françoise Hardy?'
★★★★ Broadway Baby
Cydnabyddiaethau
Crëwyd gan Karl Jay-Lewin a Matteo Fargion
Perfformir gan Karl Jay-Lewin a Tim Parkinson
Ynglŷn â’r artistiaid
Coreograffydd, perfformiwr a chyflwynydd yw Karl Jay-Lewin. Yn ogystal â’i waith dawns a pherfformio, Karl yw Cyfarwyddwr Creadigol Bodysurf Scotland, gan raglennu a chyfarwyddo ei ŵyl dawns gyfoes a pherfformio RISE! Mae Karl wedi creu llawer o ddarnau dros flynyddoedd maith. Bu’n un o gydsefydlwyr Culture Café ac mae’n aelod o fwrdd y Touring Network (Yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd).
Cerddor a pherfformiwr yw Matteo Fargion o Milan. Dechreuodd astudio gitâr glasurol cyn mynd i Brifysgol Natal i barhau ei astudiaethau cerddorol o dan arweiniad y cyfansoddwr Kevin Volans. Daeth addysgu cyfansoddi Volans yn ddylanwad pwysig ar ei gerddoriaeth a’i waith perfformio diweddarach. Mae Matteo wedi gweithio’n helaeth ym maes y ddawns a’r theatr dros y tri degawd diwethaf. Mae hyn wedi cynnwys cydweithrediad ffrwythlon dros ugain mlynedd â’r coreograffydd enwog, Jonathan Burrows. Aelod cyfadran gwadd dros amser maith yn P.A.R.T.S. ym Mrwsel yw Matteo, lle mae wedi gweithio ar ddull newydd o addysgu cyfansoddi i goreograffwyr ifainc.
Ar hyn o bryd mae Karl a Matteo yn gweithio ar gynhyrchiad newydd o’r enw Extremely Pedestrian Chorales.