Sioe un-ddynes dyner yw Hardy Animal sy’n edrych ar boen gronig a gwytnwch dynol. Yn llythyr ffarwél at hunaniaeth a fu ac yn awdl i’r ddawns.
Gan ymdrin â’r corff dynol a’i ddiffygion, mae Hardy Animal yn sôn am siwrnai dawnswraig i ansymudoldeb. Mae’n olrhain taith egr sy’n llawn colled a gobaith gan edrych ar ein hangen i greu ystyr mewn byd dryslyd.
'Mae’n hollol ardderchog, mae’n herfeiddiol ac yn ddicllon ac yn drist ac yn ddoniol ac yn hardd ac yn ddewr a jyst mor wirioneddol ac anhygoel o dda.’
— Daniel Kitson
Cydnabyddiaethau
Wedi’i chyfansoddi, ei chreu a’i pherfformio gan Laura Dannequin
Cynghorydd creadigol: Dan Canham
Wedi’i chreu gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Wellcome, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Ferment Old Vic Bryste a Theatr Bryste.
Ynglŷn â Laura Dannequin
Perfformwraig a choreograffydd sy’n byw ym Mryste yw Laura. Yn ogystal â pherfformio gydag eraill ac iddyn nhw, mae wedi datblygu gwaith artistig sy’n ei ddangos ei hun drwy berfformio, gosodwaith a phrint. Cydweithwraig reolaidd a hirdymor â Dan Canham a Still House yw Laura, gan weithio’n fwyaf diweddar fel coreograffydd cyswllt ar Of Riders and Running Horses.