Gweithdy dan arweiniad Benjamin Kahn o Compagnie Philippe Saire
Mewn partneriaeth â Groundwork Pro
Un o hoelion wyth perfformwyr Compagnie Philippe Saire yw Benjamin Kahn ac mae’n perfformio yn Black Out. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar syniadau yn y cynhyrchiad ac ar ymagwedd Philippe tuag at wneud gwaith.
Pryd a ble?
Dydd Sadwrn 11Tachwedd
11yb to 1yp
Tŷ Dawns
Cost: £6
E-bostiwch groundworkprocardiff@gmail.com i gadw lle.
Bydd Black Out yn cael ei pherfformio am 6yh ac 8yh nos Wener 10 a nos Sadwrn 11 Tachwedd yn y Tŷ Dawns. Cliciwch yma i archebu tocynnau.
‘Mae Black Out Philippe Saire yn orchestwaith… darlun symudol o olau, cyhyrau a llwch rwber.'
L’Hebdo