• Rhys Cuzins
  • Rhys Cuzins
  • Tuplet, A Mighty Wind a Walking Mad

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Tri darn gan dri choreograffydd Ewropeaidd neilltuol, gan gynnwys comisiwn diweddaraf y cwmni, A Mighty Wind gan Jeroen Verbruggen.

Ymchwiliad ffraeth ac egnïol iawn yw Tuplet Alexander Ekman i’r syniad syml o rythm. Mae anadl a chyrff y dawnswyr yn creu trac sain drymio pwerus, wedi’i gyfuno â phwnio cyfeiliant electronig a seiniau jazz hiraethus Fly Me to the Moon.

Darn hynod egnïol a bywiog yw A Mighty Wind gan Verbruggen sy’n dal holl angerdd elfennau natur yn ystod storm, wedi’i osod yn erbyn y pŵer a gynhyrchir gan gyngerdd cerddoriaeth roc amgen.

Mae Walking Mad Johan Inger yn llawn ffraethineb gyda joch o wallgofrwydd i roi rhyw fin annifyr ar bethau. Mae wedi’i osod i synau cynhyrfus a grymus Boléro Ravel a cherddoriaeth gan Arvo Pärt.

@ndcwales / #ndcwales15

'Yn ffraeth, yn glyfar a’r cyfrwng perffaith i’r cwmni hynod amryddawn yma.' *****
The Scotsman
'Mae hyd a lled eu gwaith yn drawiadol yn ei uchelgais.'
The Guardian