Cyflwynwyd mewn partneriaeth â Migrations
Mae corff unigol yn dod i’r gofod ac yn dechrau troelli. Mae’r troelli’n dechrau’n araf, ond yn raddol mae’n troi’n symudiad chwyrlïol lloerig.
O fewn y symudiad cylchol obsesiynol hwn, mae’r perfformiwr Daniel Linehan yn cyflwyno cyfres o amrywiadau, cyflymiadau a newidiadau cynnil, gan greu dawns ddoniol a chymhleth. Mae’n mynd drwy brosesau egnïol sy’n cynnwys aml dasg ar yr un pryd ac yntau’n dal i droelli’n ddiddiwedd.
Yn ôl Linehan, dydy o ddim yn siarad am anobaith, gwytnwch na pholisi’r llywodraeth; dydy o ddim yn siarad am enwogion, meistrolaeth na phroblemau metaffisegol. Ond drwy’i eiriau mae’n tynnu ein sylw at y materion hyn, gan gonsurio byd sy’n fwy o lawer na’r cylch cyfyng y mae’n perfformio ynddo
Yn troi a throi’n ddiddiwedd yng nghanol y rhwydwaith syniadau newidiol hwn, mae Linehan yn creu twll du â’i ben i lawr – gofod llawn pendro sy’n drysu popeth efallai, ond hefyd lle mae myfyrio meddylgar sy’n gadael i’r holl syniadau hyn lifo ac atseinio.
Perfformiad gwefreiddiol penigamp yw hwn sy’n sgleisio drwy bethau. Syniadau, disgwyliadau, y syniad o beth allai ddigwydd nesa.
Bydd Karine Decorne, cyfarwyddwr artistig Migrations, yn arwain sesiwn holi ac ateb gyda Daniel ar ôl y perfformiad.
Cliciwch yma am wybodaeth am y fargen docynnau sydd ar gael i rwydwaith Groundwork Pro.