• Reboot: Moving Music

Suzy Willson a Paul Clark

Ers 20 mlynedd a mwy, mae Suzy Willson a Paul Clark – Cyfarwyddwyr Artistig Clod Ensemble – wedi cydweithio i greu corff unigryw o waith perfformiad sy’n cyfuno symudiadau a cherddoriaeth wreiddiol.


Yn ystod y gweithdy undydd, bydd Suzy a Paul yn rhannu rhai o’r egwyddorion sy’n sail i’w gwaith ynghyd ag ymarferion sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng symud a cherddoriaeth. Ym myd y theatr, dawns, opera a ffilm, caiff cerddoriaeth ei defnyddio mewn amryfal ffyrdd – i gynyddu dwyster teimlad, i chwarae ar emosiynau, i weithredu fel papur wal, neu fel strwythur i’r darn. Yn y sesiwn yma, gyda cherddoriaeth gan Bach, Carl Stalling, Miles Davis, Purcell, Ray Charles, Stravinsky a cherddoriaeth o rai o sioeau diweddar Clod Ensemble, byddwn yn ystyried sut mae’r hyn rydyn ni’n ei glywed yn effeithio ar yr hyn rydyn ni’n ei weld.

Mae Reboot: Moving Music yn rhan o raglen datblygu artistiaid Clod Ensemble, ac mae’n rhad ac am ddim. Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan, anfonwch eich CV a datgan eich diddordeb i reboot@clodensemble.com erbyn dydd Llun 6 Tachwedd, 10yb.


Mae Under Glass yn rhedeg o 22 tan 25 Tachwedd yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cliciwch yma i gael gwybod mwy ac archebu tocynnau.

Ac yma ceir gwybodaeth am y gwahanol ddigwyddiadau sy'n rhan o breswyliad Ensemble Clod.


'Mae safon y perfformiad yn syfrdanol ac yn fythgofiadwy.'
★★★★ The Scotsman

Cefnogwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome a Chyngor Celfyddydau Lloegr.