Gosodwaith dawns byw gyda symudiad, delwedd, gwrthrychau a sain.
Mae dawnsiwr yn gorwedd ar y ddaear, yn edrych ar yr awyr gan anadlu’r cymylau i mewn. Mae gofodwr o Apollo 9 yn ystyried ei olygon ar y Ddaear. Beth sydd i’w ddysgu am adre gan Gigfran?
Defnydd yw cartref sy’n cael ei weu o bethau sy’n symud ac yn cyfuno. Ymarfer sy’n gwneud, ac ail-wneud…
Ar ôl treulio llawer o flynyddoedd yn mynd ag ef ei hun a’i waith i fannau pell, mae Simon wedi dod yn ôl at y ffurf solo. Mae’n cymryd amser gydag Astudiaethau i Maynard i feddwl am sut beth yw bod adre wrth ddal cromlin ehangach y Ddaear.
Gyda chydweithwyr yr artist sain Barnaby Oliver a’r gwneuthurydd ffilm Tanya Syed.