GDdC15 Tocynnau ac atodlen perfformiad
Bydd clicio ar y blychau oren isod yn mynd â chi at y dudalen ar gyfer y perfformiad dan sylw ar naill ai gwefan Chapter neu Ganolfan Mileniwm Cymru. Gellir archebu tocynnau ar gyfer perfformiadau yn y Tŷ Dawns a Chanolfan Mileniwm Cymru drwy swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru.
Os ydych am archebu’n bersonol, dylech naill ai ymweld â’r ganolfan neu ffonio’r rhif priodol isod:
Digwyddiadau yn Chapter
029 2030 4400
Digwyddiadau yn y Tŷ Dawns a Chanolfan Mileniwm Cymru
029 2063 6464
Minicom 029 2063 4651
Mae prisiau’n amrywio rhwng digwyddiadau ond at ei gilydd mae consesiynau ar gael i’r holl ddigwyddiadau ac os ydych yn 25 neu’n iau, gallwch archebu tocynnau hanner pris i lawer o ddigwyddiadau. Gall ffioedd archebu fod yn berthnasol.