• Diolch...

Diolch i’r holl sefydliadau sy’n cefnogi gwahanol agweddau ar GDdC17. 

Allen ni byth ei gwneud hi hebddoch chi.


Mae’r prif fuddsoddiad yn yr Ŵyl wedi’i wneud gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’i gefnogaeth i wyliau ar draws Cymru.

Mae Interruption, ein prosiect preswyl gyda Basement 21, yn rhan o Flwyddyn Diwylliant y DU-India 2017. Mae wedi derbyn cymorth ariannol drwy Gronfa India Cymru a reolir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Diolch i Gyngor Dinas Caerdydd a Phrifysgol De Cymru am eu cefnogaeth i ddiwrnod digwyddiadau’r prosiect.

Mae pob un o’n tri phartner cyflwyno – Chapter, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru – yn gefnogwyr gweithgar i’r Ŵyl. Rydym y tu hwnt o ddiolchgar i’r holl aelodau staff sy’n cyfrannu ac am y gefnogaeth ymarferol ar ffurf nwyddau a gwasanaethau sy’n helpu i wneud digwyddiadau’n bosibl. 

Cefnogwyd ein rhaglen berfformio’n ariannol gan Chapter, Migrations a Chanolfan Mileniwm Cymru. Cefnogwyd ymweliadau ymchwil ar gyfer y rhaglen ar hyd y ffordd gan Cultúr Éireann, Fieldwork, The Work Room a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Cynhelir ein digwyddiadau datblygu proffesiynol mewn partneriaeth â Groundwork Pro, menter a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Diolch hefyd i’r asiantaethau canlynol sy’n cefnogi ymweliadau gan artistiaid a chwmnïau rhyngwladol:

Cultúr Éireann am ei gefnogaeth i Gwmni Liz Roche

Pro Helvetica yn y Swistir am ei gefnogaeth i Compagnie Philippe Siare

Cyngor Celfyddydau Canada am ei gefnogaeth i’r preswyliad gan maribé - sors de ce corps a Montréal Danse. 


Ceir gwybodaeth am gomisiynwyr, cyd-gynhyrchwyr a chyllidwyr i wahanol gynyrchiadau ar y tudalennau digwyddiadau.