Ddeng mlynedd yn ôl mi ddes i ar draws cyfweliad lle'r oedd ffidlwr gwerin yn disgrifio 'dawns goll, marwnad i un fenyw i goffáu marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf.'
Mae Morfa Rhuddlan wedi dod i'r golwg yn sgil fy ymgais i gael hyd i'r 'ddawns goll' hon.
Gallwch brofi Morfa Rhuddlan drwy dair elfen. Stiwdio agored lle mae croeso i bawb, cyfres o deithiau cerdded a darn dawns.
Stiwdio agored Nos Fercher 20 Tachwedd, o 7yh
Teithiau cerdded Dydd Iau 21 a dydd Gwener 22 Tachwedd, 11.30yb a 2.30yp Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth
Perfformiadau Dydd a nos Sadwrn 23 Tachwedd, 4yp a 8yh Cliciwch yma i archebu tocynnau
Coreograffydd o Aberystwyth yw Siriol Joyner. Mae’n obsesedig â iaith a’i pherthynas â dawnsio. Cwblhaodd Siriol Radd Feistr Celfyddyd Gain mewn Coreograffi ym Mhrifysgol y Celfyddydau Stockholm yn 2018.
Roedd Siriol yn rhan o Interruption, ein prosiect India Cymru gyda Basement 21 ym 2017.