Heuwyd hadau Swishpan oedd Tereza yn gweithio ar Beating, ffilm ddawns a leolwyd mewn clwb bocsio.
'Rhyfeddol i mi oedd sut bydd bocswyr yn neidio trwy raff. Mi fwynheais ysgafnder eu symudiadau, eu rhythm newidiol a symudiad eu breichiau a’u coesau. Mi ges i fy swyno gan y gwahanol fathau o neidiau a llamau a’r hyn oedd wir yn fy nharo oedd sŵn y rhaff neidio oedd yn gyfeiliant i’w symudiadau.’
Felly, aeth Tereza ati i greu Swish, a daeth y rhaff neidio i symboleiddio llawer iawn mwy.
'A fyddwch chi’n neidio y tu hwnt i chi’ch hun, y tu hwnt i’ch ffiniau, neu a ydych chi wedi’ch dal mewn cylch dieflig na allwch ddianc ohono?’
Wedi derbyn gwobr Darn Dawns y Flwyddyn 2017 yn Llwyfan Dawns y Weriniaeth Tsiec 2017
Cydnabyddiaethau
Perfformwyr: Tereza Hradilková a Filip Míšek
Cysyniad a dehongliad: Tereza Hradilková Dramäwriaeth: Biljana Golubović Cerddoriaeth: Filip Míšek Cynllunio goleuo: Pavel Kotlík Goleuo: Jan Hejzlar Cynllunio sain: Michal Sýkora Gwisgoedd: Marjetka Kürner Kalous Ymgynghorydd: Lukáš Jiřička Cynhyrchu: Veronika Hladká Cynhyrchydd: Jakub Hradilek
Cydgynhyrchwyd gan Tanec Praha, PONEC – dance venue a Studio Truhlárna
Gyda chefnogaeth gan Ministry of Culture Czech Republic, Tanec Praha, PONEC – dance venue, NADACE ŽIVOT UMĚLCE, 4 + 4 days in motion, Motus a Bazaar festival