• Stiwdio Agored: BESIDE

maribé - sors de ce corps a Montréal Danse

(Québec/Canada)

Yn ymweld â ni o Québec, bydd maribé - sors de ce corps a Montréal Danse yn gweithio ar eu cynhyrchiad newydd BESIDE.


BESIDE yw’r rhan olaf o drioleg a grëwyd gan y coreograffydd Marie Béland o’r enw BEHIND – BETWEEN - BESIDE.

Drwy’r darnau gwahanol, mae Marie wedi bod yn datgelu agweddau ar berfformio sydd fel arfer yn cael eu cuddio. Yn y ddau ddarn cyntaf, gofynnodd i gynulleidfaoedd edrych y ‘tu ôl’ a ‘rhwng’ beth gallant ei weld yn syth. Gan ddefnyddio radio amser real fel y trac sain, mae’r drydedd ran yn gofyn beth sy’n digwydd os ydyn ni’n edrych ‘wrth ymyl’. Beth sy’n digwydd os ydyn ni’n dod â’r tu allan i mewn i’r theatr? Beth allai gael ei ganfod ymysg adroddiadau newyddion, cerddoriaeth bop, cyfweliadau a hysbysebion am geir? 

Yn y digwyddiad Stiwdio Agored hwn, bydd maribé, sors de ce corps a Montréal Danse yn rhannu rhywfaint o’r gwaith y byddant wedi’i greu yn ystod eu preswyliad.


Mae Rachel Harris yn arwain y Dosbarth Bore ddydd Mawrth 14 Tachwedd Tachwedd fel rhan o’r rhaglen datblygu artistiaid rydyn ni’n ei chynnal gyda Groundwork Pro. Fe’i cynhelir yn Rubicon Dance o 9.30yb tan 11yb. Cliciwch yma am wybodaeth.


'Mae hi wedi cael ei hwrjo fel seren esgynnol newydd, ond mae’r hyn a ddyfeisir ganddi’n ffres, egnïol ac, ia wir, yn arloesol.’
Dance Current

Cydnabyddiaethau
Coreograffydd: Marie Béland
Dramodydd: Kathy Casey
Perfformwyr: Rachel HarrisSylvain Lafortune and Bernard Martin

Cydgynhyrchiad yw BESIDE rhwng maribé – sors de ce corps a Montréal Danse.

Wedi’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Canada, Conseil des arts et des lettres du Québec a Conseil des arts de Montréal.


Ynglŷn â’r cwmnïau

Sefydlodd Marie Béland maribé – sors de ce corps yn 2005. Dros y deuddeng mlynedd ers hynny, mae’r cwmni wedi cynhyrchu gweithiau lle mae diffyg disgyblaeth yn teyrnasu gyda chywirdeb manwl ac asbri. Yn ddidaro ar yr olwg gyntaf, man cychwyn ydyn nhw ar gyfer myfyrdod dwys ar y natur ddynol a moesau cymdeithasol. Nodyn ar enw’r cwmni: cyfieithiad llac o enw’r cwmni ‘sors de ce corps’ yw ‘cer mas o’r corff ’na’.

Rhan o sin y ddawns yn Québec sydd wedi hen ennill ei phlwyf yw Montréal Danse. Yn amlweddog yn y ffordd mae’n gweithredu, mae o dan arweiniad Kathy Casey er 1996. 

Mae’r ddau gwmni’n cydweithio ag Art Circulation.