• Mewn sgwrs

Leah Marojević a Theo Clinkard

Yn cael ei gynnal gan Groundwork, mae Leah a Theo yn rhoi ambell gipolwg ar eu perthynas waith bresennol gan wahodd sgwrs am syniadau sy’n ymwneud â chydweithredu, cydawduraeth a chreu gwaith i theatrau ac orielau.

Gan dynnu ar y profiad o greu eu gwaith deuawd newydd, The Elsewhen Series, yn ogystal â myfyrio ar brofiadau cydweithredol mewn cyd-destunau eraill, gobaith Leah a Theo yw creu gofod i drafod eu dulliau, profiadau a chwestiynau eu hunain ynghylch y themâu hyn.


Gallwch weld The Elsewhen Series yn g39 ddydd Sadwrn 23 Tachwedd ac yn Chapter ddydd Sul 24 Tachwedd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Perfformiadau am ddim. 


groundworkpro.com