• Parti agoriadol + digwyddiad lansio

Amser i gysylltu. Dewch i ymuno â ni i ddathlu agor Gŵyl Ddawns Caerdydd.

Mae ein noson agoriadol yn cynnwys un o gomisiynau’r Ŵyl gan yr artist Cecile Johnson Soliz a dawnswyr, dangosiadau ffilmiau gan artistiaid a chwmnïau’r Ŵyl ynghyd â set DJ gan Andy Warphole.


Exploratory Dances for Drawings and Sculpture  

Mae Cecile Johnson Soliz yn gweithio ar draws y meysydd arlunio a cherflunio. Mae Gŵyl Ddawns Caerdydd wedi comisiynu Cecile i ymchwilio i’w dulliau creu gyda’r dawnswragedd Martha Dunbar, Camille Giraudeau, Zosia Jo a Charlotte Perkins. Mae’r sgwrs rhyngddynt sy’n dilyn yn cynnwys symud a deunyddiau a chydnabyddiaeth o ystumiau a gweithredoedd pob dydd. Mae’r gwaith cyffrous yma, Exploratory Dances for Drawings and Sculptureyn rhagflas o gydweithredu i’r dyfodol – gobeithio.


Anfonwch e-bost at rsvp@dance.wales os gallwch chi ddod. 

Bydden ni wrth ein boddau’ch gweld.




Delwedd: Twist gan Cecile Johnson Soliz
Llun gan Dewi Tannat Lloyd