• Rambert2

Symudiadau ffyrnig newydd gan ddawnswyr ffyrnig newydd – dyma egin-ddawnswyr mwyaf cyffrous y byd yn dod â’u creadigaethau diweddaraf i Gaerdydd.

Yn cael ei ffurfio bob blwyddyn yn dilyn helfa fyd-eang am ddoniau newydd, mae dawnswyr Rambert2 yn cyfuno meistrolaeth dechnegol ag egni amrwd. Maent yn cydweithio â rhai o’r coreograffwyr mwya cyffrous dan haul i greu darnau dawns sy’n ymgorffori eu hysbryd eofn.

Mae eu rhaglen newydd yn cynnwys Sin, deuawd gan Damian Jalet a Sidi Larbi Cherkaoui, ochr yn ochr â gwaith newydd gan Andrea Miller, seren sin ddawns Efrog Newydd a Jermaine Spivey, dawnsiwr a choroegraffydd sy’n fwyaf adnabyddus am ei berfformiadau neilltuol gyda Kidd Pivot Crystal Pite.


rambert.org.uk


Edgy, cool, challenging, excellent
★★★★ The Guardian

Cliciwch yma i ddarllen yr adolygiad llawn


Cydnabyddiaethau

Sin
Coreograffi: Damian Jalet a Sidi Larbi Cherkaoui

Sama
Coreograffydd: Andrea Miller

Terms and Conditions
Coreograffydd: Jermaine Spivey

Credydau llawn ar gyfer yr holl ddarnau i ddilyn


Delweddau gan Britt Lloyd, cysyniad a chyfarwyddo creadigol gweithredol gan Stefan Campbell. Dawnswyr Chen Peng (yn gwisgo A Cold Wall), Vivian Pakkanen a Juliette Wooden.