• Roots

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

(Cymru)

Pedair dawns finiog fer gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.


Yn ffraeth iawn ac yn llawn cymeriad a dawnsio anhygoel, pedwarawd difyr a hudol yw Roots.

Mae Beside Himself yn edrych ar sut mae’r ego a’r alter ego yn cydfyw ochr yn ochr. Mae wedi’i choreograffu gan gyfarwyddwr artistig y cwmni, Caroline Finn, felly byddwch yn barod am ei harddull ecsentrig ar ei gorau.

Darn teimladwy yw Omertà am wragedd yng nghymdeithas Maffia’r Eidal a’u llwybr at ryddid. Wedi’i goreograffu gan Matteo Marfoglia, mae wedi’i osod i gerddoriaeth wych gan y grŵp lleisiol Eidalaidd, Faraualla. 

Ochr yn ochr â’r perfformiadau hyn mae’r cwmni’n perfformio dau hoff ddarn o’u teithio diweddar. Animatorium chwareus Caroline a darn dirdynol Lee Johnston They Seek to Find The Happiness They Seem.

Mae’r perfformiadau’n cynnwys trafodaeth a straeon gan y rheini a fu’n cymryd rhan mewn gwneud a pherfformio’r gwaith. Ffordd wych o gael gwybod mwy am y gwahanol ddarnau.


'Finn yw un o’r artistiaid disgleiriaf sy’n gweithio yng Nghymru heddiw ar draws unrhyw gyfrwng a fynnoch chi.’
Wales Arts Review
'Dyma ryw fath o wrth-ramant lle mae pâr yn cychwyn â’u dwylo’n gafael yn ei gilydd, eu cyrff yn cydblethu’n dyner ond eu llygaid yn benderfynol o osgoi unrhyw gyswllt.'
The Guardian wrth sôn am They Seek To Find The Happiness They Seem

Cydnabyddiaethau

Animatorium
Coreograffi a chynllunio gwisgoedd: Caroline Finn
Cerddoriaeth: Mashrou' Leila, Vittorio Monti a Alberto Navas
Cynllunio goleuo: Caroline Finn a Adam Cobley

Beside Himself
Coreograffi a chynllunio gwisgoedd: Caroline Finn
Cerddoriaeth: DVA, Robag Whrume a Fanfare Ciorcarlia
Cynllunio goleuo: Caroline Finn a Adam Cobley

Omertà
Coreograffi: Matteo Marfoglia
Cerddoriaeth: Faraualla a chynllunio sain gan Sarah Everson
Cynllunio goleuo: Leighton Thomas-Burnett
Cynllunio gwisgoedd: Rike Zoellner

They Seek To Find The Happiness They Seem
Coreograffi: Lee Johnston
Cerddoriaeth: Max Richter
Cynllunio goleuo: Joe Fletcher
Cynllunio gwisgoedd: Zepyr Agopyan

Perfformwyr: Robert BridgerÀngela Boix DuranCyril Durand-GasselinCamille GiraudeauEd MyhillMathew PritchardEvan SchwarzElena Thomas a Marine Tournet