• Maxyme G. Delisle
  • Yellow Towel

Dana Michel

Yn blentyn, byddai Dana Michel yn taenu tywel melyn am ei phen mewn ymgais i efelychu’r merched penfelyn yn yr ysgol. Yn oedolyn, mae’n ailymweld â byd dychmygol ei hunan arall mewn perfformiad sy’n rhydd o wyngalchu neu sensoriaeth.

Mae Yellow Towel yn twrio i stereoteipiau'r diwylliant du, gan eu troi tu chwith allan i weld beth sy’n dod i’r fei. O atgofion dwfn, yn ara deg daw creadur rhyfedd i’r golwg sy’n ymaddasu i’w amgylchiadau mewn trawsffurfiad araf ac annisgwyl.

Ar y dechrau, wedi’i denu gan estheteg ffasiwn, clipiau fideo, comedi a diwylliant queer mae Dana wedi gwneud marc cryf fel rhan o sin ddawns annibynnol Montréal.

Mae Yellow Towel wedi teithio’n helaeth ers ei pherfformiad cyntaf yn y Festival TransAmeriques yn Montréal yn 2013. Y llynedd, cyrhaeddodd ddeg sioe ddawns uchaf Time Out Efrog Newydd ac ennill gwobr arbennig yn ImPulsTanz yn Fienna.


Coreograffi, perfformiad, cynllun y set a’r gwisgoedd: Dana Michel
Cynllunio goleuo: Karine Gauthier
Rheolwr technegol: Armardo Gomez Rubio
Cynghorwyr artistig: Ivo Dimchev, Peter James, Mathieu Leger, Antonija Livingstone, Manolis Tsipos
Ymgynghorydd sain: David Drury
Cynhyrchydd gweithredol: Marie-Andrée Gougeon i Daniel Léveillé danse

Cydgynhyrchwyd Yellow Towel gan Festival TransAmeriques a Studio 303 a’i datblygu drwy breswyliadau gyda Compagnie Marie Chouinard, MAI, Le Chien Perdu, Usine C, Circuit-Est centre chorégraphique, Studio 303 ac Agora de la Danse.

Mae Yellow Towel wedi cael ei chefnogi gan Conseil des arts et des lettres du Québec, Cyngor Celfyddydau Canada a Swyddfa Llywodraeth Québec yn Llundain.