Tocynnau
Gallwch brynu tocynnau ar-lein, yn bersonol neu dros y ffôn.
Bydd clicio ar y ddolen ‘Tocynnau’ oren ar y tudalennau digwyddiad ac ar yr amserlen Beth sydd ymlaen a phryd yn mynd â chi at y dudalen werthu ar gyfer y perfformiad hwnnw.
Mae prisiau tocynnau’n amrywio o ddigwyddiad i ddigwyddiad. Mae rhai canolfannau’n codi ffi archebu.
Consesiynau a thocynnau gostyngol
Mae prisiau consesiynol ar gael i bob digwyddiad ac eithrio Poggle lle ceir pris unigol i blant ac oedolion.
Os ydych o dan 26, gallwch gael tocynnau hanner pris i’r rhan fwyaf o’r perfformiadau. Archebwch ar-lein a bydd y pris yma’n ymddangos fel un o’r gostyngiadau. Mae’r pris yma hefyd yn berthnasol i archebion grŵp i fyfyrwyr. Ffoniwch y canolfannau ar y rhifau isod i archebu.
Mae Chapter a Chanolfan Mileniwm Cymru yn aelodau o Hynt, cynllun mynediad cenedlaethol Cymru.
Archebu’n bersonol neu dros y ffôn
Ar gyfer perfformiadau yn Chapter, ffoniwch 029 2030 4400. Fel arfer, bydd desg docynnau Chapter yn agored rhwng 10yb a 8.30yh, saith diwrnod yr wythnos.
Ar gyfer perfformiadau yn y Tŷ Dawns a Chanolfan Mileniwm Cymru, ffoniwch ddesg docynnau a gwybodaeth y Ganolfan ar 029 2063 6464. Fel arfer, bydd y ddesg docynnau’n agored saith diwrnod yr wythnos o 10yb. Bydd yn cau 30 munud ar ôl dechrau’r perfformiad olaf y diwrnod hwnnw.
Gallwch glicio drwodd i dudalennau’r canolfannau o’r paneli isod. Mae’r rhain yn rhoi cyfeiriad a manylion cyswllt pob canolfan a dolenni â’r digwyddiadau a gynhelir yno.
Sut i gael eich tocynnau
Gallwch brynu tocynnau ar-lein, yn bersonol neu dros y ffôn.
Bydd clicio ar y ddolen ‘Tocynnau’ oren ar y tudalennau digwyddiadau ac ar yr amserlen Beth sydd ymlaen a phryd yn mynd â chi at y dudalen werthu ar gyfer y perfformiad hwnnw.
Mae prisiau tocynnau’n amrywio o ddigwyddiad i ddigwyddiad. Mae rhai canolfannau’n codi ffi archebu.